gan Jenny-Ann Hopkin
Yn ddiweddar mae’n amlwg fod llawer o bwyslais wedi bod o fewn y cyfryngau yn son am y toriadau sydd wedi ei wneud o fewn addysg uwch. Rwy’n meddwl efallai, fod rhai ddim yn sylweddoli faint o bobl mae hwn yn effeithio arno, nid yn unig yn uniongyrchol, ond yn y pen draw.
Mae toriadau yn cael ei wneud yng ngholegau a canolfannau chweched dosbarth, sydd yn meddwl fod staff yn colli oriau, neu swyddi’n gyfan gwbl. Ond mae hwn hefyd yn effeithio ar disgyblion sydd methu astudio’r cyrsau maent eisiau oherwydd diffyg arian. Mae nifer o ddisgyblion wedi gwynebu hwn yn barod wrth wneud eu dewisiadau Lefel A, a dysgu eu fod methu dilyn y cwrs maent eisiau, oherwydd fod yr Ysgol neu’r Coleg methu fforddio i gadw’r cwrs i fynd. Mae hwn yn amlygu’i hunain mewn cyrsiau nad sydd mor boblogaidd ar Lefel A, megis ieithoedd fel Almaeneg ac ati. Gall hwn effeithio’n fawr ar dyfodol rhai unigolion, sydd yn dibynnu ar rhai Lefelau A arbennig i medru dilyn ei cwrs ddewisiedig yn y Brif Ysgol.
Wrth edrych o safbwynt staff, gyda fwyfwy o bobl yn colli swyddi, mae’n amser anodd iawn, gyda pwysau enfawr ar aelodau staff. Mae rhai’n dysgu fod yr Ysgol/Coleg methu fforddio i gynnal eu chwrs, a felly nid oes swydd iddynt rhagor, neu o fewn pynicau craidd megis Y Gymraeg a Mathemateg, fod rhaid i rhai aelodau staff colli rhai oriau oherwydd does dim digon o arian efo’r Ysgol/Coleg i rhoi swydd llawn amser iddynt.
Gwyddwn fod Plaid Cymru yn ceisio gweithio i wella’r sefyllfa, a dywedodd Dai Lloyd wrth son am Coleg Gorseinon, sydd yn ddiweddar wedi gwynebu amser caled. “Plaid feels strongly that we should try and protect key educational services locally’. Mae’r Coleg wedi gorfod meddwl am cau un o’i ganolfannau oherwydd diffyg arian, ac mae pwysau mawr ar staff y coleg, i wneud penderfyniadau anodd, fydd yn effeithio dyfodol y Coleg a’i fyfyrwyr.
Newyddion dda, sy’n dod a gobaith yw’r ffaith fod gennym Aelodau Seneddol fel Bethan Jenkins, sydd yn cynrychioli’r Blaid yn cydweithio a Dai Lloyd i wella’r sefyllfa. Hefyd, fod ein Plaid ni, yn gweithio ac yn ymgyrchu dros ein Colegau a’n canolfannau Cweched Dosbarth i sicrhau fod eu staff a’i fyfyrwyr yn cael y cyfleoedd gorau, i sicrhau fod gobaith iddynt yn y dyfodol, i rhoi’r cyfleoedd gorau i’r Cymry sydd yn astudio yma.