Showing posts with label IWA. Show all posts
Showing posts with label IWA. Show all posts

Thursday, 12 November 2009

IWA yn Lawnsio adran Menywod

Echnos mynychais noson lawnsio menywod IWA oedd yn cyflwyno adroddiad newydd “Mas Critigol” Effaith a dyfodol cynrychiolaeth menywod yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Tipyn o lond ceg - ond fela ma’ merched ynte?!

Cafwyd pwt o araith gan gynrychiolydd o’r prif Bleidiau, gyda Carwyn Jones ar ran y Blaid Lafur, Jocelyn Davies ar ran Plaid Cymru, Nick Bourne ar ran y Ceidwadwyr a Kirsty ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol.

Canlyniad y noson yn syml oedd nad oedd merched yn sefyll fel ymgeiswyr ac felly yn achosi diffyg cyd bwysedd cynrychiolaeth yng Nghymru. Nid dim ond menywod wrth gwrs sydd â diffyg cynrychiolaeth deg, mae lleiafrifoedd ethnig heb gynrychiolaeth sy’n adlewyrchu’r boblogaeth. Ond menywod oedd prif destun y noson.

Daeth hi’n amlwg na fyddai na ateb i’r cwestiwn mawr ar sut i godi nifer y merched etholedig yn y Cynulliad, ond cafwyd trafodaeth ddifyr. Daeth consensws nad oedd y term anffafriaeth bositif “positive discrimination” yn gweithio ac yn annealladwy i’r rhan fwyaf o etholwyr. Yn fy nhyb i mae’n ‘chydig o oxymoron, sut allai unrhyw fath o anffafriaeth fod yn bositif? Felly awgrymodd Carwyn Jones ein bod yn defnyddio’r term “positive action” gweithred bositif. Ie, iawn ond ai dim ond siarad nonsens, meddal, di ystyr yw hyn? Y gwir amdani yw bod rhaid taclo’r broblem yma ar lawr gwlad. Dyma yn fy marn i yw’r lle gorau i hybu merched i sefyll mewn etholaeth, sir, tref neu bentref. Yn bersonol credaf nad yw rhoi blaenoriaeth i ferched ar ben unrhyw restr mewn etholaeth yn gwneud llawer i hunan hyder merched ac yn sicr ni fuaswn i yn hapus iawn o gael fy rhoi ar ben rhestr a neb wedi pleidleisio i mi fod yno.

Mae’n rhaid egin cymorth a help i ferched o’r cychwyn cyntaf, boed yn ymweliad cyntaf i’r pwyllgor etholaeth neu wrth gynnig helpu taflennu, gallaf ddweud o brofiad bod eistedd mewn neuadd bentref yn llawn o ddynion mewn teis yn siarad am bwnc am faterion nad oes gen i syniad amdanyn nhw yn ‘sgeri’ iawn.

Mae hi’n ddyletswydd ar aelodau o bob haen Pleidiau gwleidyddol wneud yn siŵr nad yw merched yn dod ar draws unrhyw anffafriaeth a bod cymorth, anogaeth ac yn fwy na dim hyder yn cael ei hybu i unrhyw ferch sydd a’i phryd ar sefyll fel ymgeisydd.

Dyma 'chydig o ferched Plaid!