Wythnos ddiwethaf, roedd hi'n hynod o galonogol i mi gael clywed bod Leanne Wood, Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru, wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu sefyll am arweinyddiaeth Plaid Cymru yn 2012. Yn ferch o Ben-y-graig yn y Rhondda, rwy'n nabod Leanne yn dda, gan bod fy nheulu i yn hannu o'r un pentref. Ac fel nifer i aelod ifanc o'r Blaid, rwy'n bwriadu cefnogi ei hymgais gant y cant.
Mae Leanne yn ddewis naturiol i mi am nifer o resymau. Fel fi, mae hi'n sosialydd, yn genedlaetholwraig cadarn, yn gefnogwraig brwd o achosion gwyrdd, yn weriniaethwraig, ac yn bwysig iawn, mae ganddi brofiad o fywyd y tu allan i wleidyddiaeth. Mae ei phrofiad yn gweithio yn y Gwasanaeth Prawf ac i elusen Cymorth i Ferched yn dangos ei bod yn deall problemau dyrus ein cymdeithas. I'r rhai sydd yn cwestiynu safon Cymraeg Leanne Wood, mae hi wedi bod yn hynod gefnogol i ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith - yn llawer mwy cefnogol na nifer i AC Plaid Cymru o'r Gorllewin sy'n rhugl ei Gymraeg. Mae gweleidgaeth Leanne am Gynllun Gwyrdd i drawsnewid economi Cymru yn rhoi materion gwyrdd ac adfywio'r economi yn glir ar ei hagenda wleidyddol. Yn ogystal â hyn, mae cariad Leanne tuag at Ben-y-graig, at y Rhondda ac at ei chenedl yn gosod sylfaen ardderchog i'w bwriad i arwain ein Plaid genedlaethol.
Bydd nifer o aelodau mwy traddodiadol Plaid Cymru yn debygol o fod braidd yn amheus o allu Leanne i arwain y Blaid. Er bod Leanne yn dysgu Cymraeg, nid yw'n siarad yr iaith yn hollol rhugl, ac wedi'r cyfan, does dim cefndir gwledig, traddodiadol gan Leanne. Merch o'r Cymoedd yw hi, ardal lle mae Plaid Cymru wedi sefydlu ei hun yn wrthblaid cadarn ond heb dorri trwyddo i fod yn ddewis cyntaf i nifer o etholwyr. Ond dyma pam rwyf yn credu taw hi ydy'r union beth sydd angen ar Blaid Cymru. Yr hyn sydd angen yw rhywun sydd yn cynrhychioli buddiannau pob un person yng Nghymru - nid yn unig buddiannau'r ffermwr a'r Cymro Cymraeg, ond hefyd rhai y ferch trin gwallt o Gaerffili a'r nyrs o Aberdâr.
Fel Cymro Cymraeg sydd wedi fy ngeni a'm magu yn y Cymoedd, rwy'n gwbl argyhoeddiedig mai gyda Leanne mae'r gallu i arwain ein Plaid i fuddugoliaeth yn etholiadau'r Cynulliad yn 2016. Dyma ein cyfle ni i newid cyfeiriad ein Plaid - nid i arwain ein mudiad cenedlaethol ar gyfeiliorn, fel y dywed nifer o'n haelodau mwy traddodiadol, ond yn hytrach yn ôl at werthoedd radical, cenedlaetholgar Plaid Cymru. Wedi'r cyfan, yng Nghymoedd y De y chwifiwyd y faner goch am y tro cyntaf - ac rwy'n fawr obeithiol mai merch o Gymoedd y De bydd yn gyfrifol am ail-ddeffro gwreiddiau radical ein cenedl a'n Plaid yn 2012.
>
Gan Emyr Gruffydd, Cadeirydd Cangen Cymru X.Caerdydd. Dim barn Cymru X yw hyn o reidrwydd. >
This is a blog by Emyr Gruffydd, the Chairman of Cymru X Caerdydd, in support of Leanne Wood's campaign for leader. This is not necessarily the opinion of Cymru X.