Saturday 30 June 2012

Etholiadau

Gan Emyr Gruffydd, Is Gadeirydd a Chydlynydd Materion Ewropeaidd Plaid Cymru Ifanc

Ymddiheiriadau am bostio hwn mor hwyr. Mae wedi bod 'da fi ar y cyfrifiadur ers sbel ond fe anghofiais ei uwchlwytho i'r blog. Mae'r cynnwys braidd yn ddiweddar, ond gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen 'ta beth!

Mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai diddorol o ran etholiadau yma yn Ewrop. Rhaid llongyfarch rhai o'n cymrodyr, a chydymdeimlo gydag eraill. Er engrhaifft, prin ydy'n gobeithion y bydd y llywodraeth newydd yng Ngroeg yn mynd i newid sefyllfa y miloedd o Roegwyr hynny sydd allan o waith a sy'n dibynnu ar barseli bwyd bob dydd. Gobeithiwn y bydd Syriza yn lais cryf i'r Groegwyr hynny yn y senedd yn Athen, yn brwydro i gadw gwasanaethau iechyd ag addysg sylfaenol i'r tlotaf yn y wlad. Gobeithio hefyd y bydd y llywodraeth yn mynd i'r afael â phroblemau enbyd yn strwythyr gwleidyddol y wlad, sydd wedi gadael i'r banciau a'r cyfoethog fodoli heb dalu trethi ers blynyddoedd lawer.

Mae bron deufis wedi pasio ers etholiadau i senedd Schleswig Holstein bellach, lle'r ennillodd y Sydslesvigsk Vælgerforening, neu'r SSW, 3 sedd ac un sedd yng Nghabinet y llywodraeth glymblaid yno, rhwng y Blaid Ddemocrataidd Sosialaidd, y Gwyrddion, a'r SSW. Mae'r blaid yn draddodiadol yn sefyll dros hawliau Daniaid a Ffrisiaid Gogledd yr Almaen. Llongyfarchiadau mawr iddynt oddi wrth bawb ym Mhlaid Cymru Ifanc, ac i'n chwaer adain ieuenctid, yr SSWUngdom am eu holl waith caled.

Canlyniadau etholiadau Seneddol Ffrainc

Mae etholiadau Senedd Ffrainc hefyd wedi bod yn hynod ddiddorol i'w dilyn yn ystod yr wythnosau diwethaf. Fel y bydd rhai ohonoch eisioes yn gwybod, cynhelir etholiadau yn Ffrainc dros bythefnos, gyda'r ddau ymgeisydd sy'n cyrraedd y brig yn wynebu ei gilydd wythnos yn ddiweddarach. Bu'n rhaid i mi edrych dros y canlyniadau yn 'Le Monde' gyda chrib fan, gan mai fel 'rég'. (régionaliste) neu 'nat' (nationaliste)yn unig y byddai'n chwaer bleidiau yn cael eu rhestru, a ddim wrth eu henwau. Dydy'r broblem o gael eich anwybyddu gan y wasg ddim yn un sy'n unigryw i ni yma yng Nghymru felly!

Llydaw
Crewyd hanes yn Llydaw gyda Paul Molac o'r UDB yn cael ei ethol gyda 51% o'r bleidlais, fel rhan o gytundeb rhwng yr UDB, y Blaid Sosialaidd (PS) a'r Gwyrddion (EELV). Fe fydd Paul yn eistedd gydag EELV yn y senedd ym Mharis. Mae hyn yn newyddion arbennig i bob un sy'n credu mewn datganoli pellach o fewn y wladwriaeth Ffrengig, a Paul yw'r unig aelod seneddol i gael ei ethol dros blaid o'r fath - Gwynfor Evans Llydaw, efallai! Gobeithio y bydd Paul yn llais dros Lydaw, ei phobl, ei hiaith a'i diwylliant, ac yn nraenen yn ystlys yr élite gwleidyddol Ffrengig sy'n gwrthwynebu Llydaw unedig.

Corsica
Yn Nghorsica, fe gyrhaeddodd y PNC, Plaid Genedlaethol Corsica, yr ail rownd mewn dau allan o bedwar o etholaethau'r ynys. Gilles Simeoni a Jean-Christophe Angelini oedd yn cynrychioli'r Blaid. Fodd bynnag, colli i'r UMP, plaid Nicolas Sarkozy yn yr ail rownd oedd yr hanes i'r PNC. Rhaid llongyfarch y PNC am gyrraedd yr ail rownd am y tro cyntaf mewn hanes - y tro cyntaf i blaid o'r fath gyrraedd yr ail rownd heb orfod gwneud cytundeb a phleidiau fel y PS neu EELV. Mae gan Blaid Cymru Ifanc gysylltiad agos gyda ieuenctid y PNC, gan y daeth un ohonynt draw i'n cynorthwyo yn yr etholiadau lleol ym mis Mai. Llongyfarchiadau iddynt am wneud mor dda a phob hwyl y tro nesaf.

Gwlad y Basg
Cafwyd canlyniadau diddorol yng Ngwlad y Basg hefyd, gyda chenedlaetholwyr yn ennill dros 11% o'r bleidlais yn Biarritz ac yn cyrraedd 8% yn Oloron-Sainte Marie. Mae'r ffaith i tua 13,000 o bobl bleidleisio dros bleidiau cenedlaetholgar yng Ngwlad y Basg yn galonogol, yn wyneb y fath wrthwynebiad hanesyddol i ieithoedd a diwylliannau lleiafrifol o fewn y Wladwriaeth Ffrengig.

Martinique a Caledonia Newydd
Etholwyd dau aelod seneddol o ynys Martinique, yn y Caribi, sy'n gefnogol o annibyniaeth i'r ynys. Fodd bynnag, colli yn yr ail rownd oedd hanes Jean Pierre Djaiwe, o'r Front de Libération Kanak Socialiste, sy'n brwydro dros anibynniaeth i frodorion Caledonia Newydd, gyda 47.45% o'r bleidlais yn erbyn 52.55% i'r ymgeisydd ar y dde unedig.

Mae'n amlwg felly bod tipyn o waith yn dal i'w wneud yn Ffrainc i'n chwaer bleidiau, ond rhaid llongyfarch pob un ohonynt am eu hymdrech, ac yn enwedig i Paul Molac, o'r UDB, am ei fuddugoliaeth. Gourc'hemmenoù, Paul!