Ymddiheuriadau am bostio mor fuan! Roeddwn am ddod a dau ddigwyddiad i'ch sylw chi y mae Plaid Cymru Ifanc yn falch o'u cefnogi.
Ddydd Sadwrn yn dod, 26 Mai 2012, mi fydd Plaid Pride yn ail-lansio yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter ar Heol y Farchnad, Caerdydd, am 14.00. Sefydlwyd y grwp yn ystod Cynhadledd Wanwyn Caerdydd 2010 a chynhelir digwyddiadau blynyddol ym Mardi Gras Caerdydd Cymru.
Pwrpas y cyfarfod hwn fydd aildrefnu'r grwp cyn digwyddiadau'r haf yn dod a'r Gynhadledd Flynyddol yn yr hydref. Byddwn yn trafod ymgynghoriad Llywodraeth y DG ar briodasau sifil cyfartal, trefniant y group, a digwyddiadau y bydd Plaid Cymru yn ymwneud ag hwy (e.e. Mardi Gras, Pride Abertawe). Mae diwrnod y cyfarfod yn digwydd ar ddiwrnod Eurovision, felly bydd dirprwyaeth yn mynd i ganol y ddinas wedi'r cyfarfod i fwynhau!
Ddydd Gwener 1 Mehefin 2012, byddwn yn cefnogi'r bobl y tu ol i Ddiwrnod Gweriniaethol Bae Caerdydd wrth iddynt lansio deiseb yn erbyn y Lluoedd Arfod yn recriwtio yn ysgolion Cymru. Y Deyrnas Gyfunol yw'r unig wladwriaeth yn yr Undeb Ewropeaidd sy'n caniatau i hwn ddigwydd; dro ar ol tro'r ydym wedi gweld y fyddin yn rhoi cyflwyniadau yn ysgolion er mwyn ceisio recriwtio'n pobl ifainc ni i'r Lluoedd Arfog. Yn aml, mae'r bobl ifainc hynny'n teimlo mai'u hunig opsiwn mewn bywyd yw ymuno a'r Fyddin neu byw ar fudd-daliadau, a chredwn ninnau nid iawn mo hynny. Mi fyddaf i'n rhoi araith fer, felly dewch draw i arwyddo'r ddeiseb a chael trafodaeth am y mater.
Bydd y cyfarfod am 19.00 yn y Deml Heddwch a Iechyd ar Rodfa'r Brenin Edward VII yn ardal Parc Cathays, Caerdydd.
Yna, ddydd Mawrth 5 Mehefin, bydd y grwp yn cwrdd eto yn Mischief's ar James Street ym Mae Caerdydd am 19.00 er mwyn rhoi cyfle arall ichi arwyddo'r ddeiseb ac i glywed pobl arall yn siarad (nid fi'r tro hwn) gan gynnwys Mike Jenkins, tad yr AC Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Bethan Jenkins.
Am wybodaeth bellach ar ail-lansiad Plaid Pride, wele: https://www.facebook.com/events/223736867741113/
Am wybodaeth bellach ar ddigwyddiad Diwrnod Gweriniaethol Bae Caerdydd yn y Deml heddwch, wele: https://www.facebook.com/events/345406628860121/
Am wybodaeth bellach ar ddigwyddiad Diwrnod Gweriniaethol Bae Caerdydd ym Mischief's, wele: https://www.facebook.com/events/394532667237096/
Y mae Plaid Cymru Ifanc yn falch o allu cefnogi'r holl ddigwyddiadau hyn, a gobeithiwn y byddwch yn gallu ymuno a ni i roi'ch cefnogaeth chithau hefyd.
Cerith Rhys Jones
Cadeirydd Cenedlaethol
Only four years?
20 hours ago