Braint oedd cael fy newis i gynrychioli ieuenctid Cymru yn y gynhadledd – rôl pwysig iawn, yn fy marn i, am ddau rheswm: a) ein cenhedlaeth ni fydd yn dioddef gwaethaf o’r newid yn yr hinsawdd pan mai nyni fydd yr oedolion, a b) Cymry ydym ni, ac mae gennym ni’r gallu i fod yn arweinwyr y byd yn nhermau taclo’r argyfwng hinsawdd. Rhagorfraint hefyd oedd gweithio’r llynedd fel Hyrwyddwr Newid Hinsawdd dros Gymru; ‘rydw i nawr allan o’r swydd ac mai’r Hyrwyddwyr newydd yn aros i gael eu cyflwyno a’u hurddo’n swyddogol gan Weinidog yr Amgylchedd. Fy mhwrpas i yng Nghopenhagen oedd i gynrychioli ieuenctid Cymru ac i wneud y gynhadledd yn berthnasol i’r Cymry.
Siom mawr i mi oedd gweld cyn lleied o drefn ar y gynhadledd – pan oeddwn i fewn yng Nghanolfan Bella, ‘roedd e’i weld fel pe tae nifer helaeth o bobl yn sefyll o gwmpas yn gwneud dim, neu eu bod ar eu cluniaduron yn hytrach na fynd ymlaen â’r gwaith o hybu ymwybyddiaeth ynghylch yr agenda pwysig hwn ac yn gweithio tuag at gytundeb llwyddianus. Wrth gwrs, ‘dw i ddim am un funud yn tynnu i ffwrdd o’r ffaith fod cyfryngau newydd yn annatod o’r cwmpawd gwleidyddol modern, ond mewn cynhadledd mor enfawr â Chopenhagen, onid cyrraedd cytundeb deg, uchelgeisiol a chyfreithlon rhwymedïol yw’r flaenoriaeth i bawb?
Felly beth am yr “Unfrydedd Copenhagen”? Llwyddiant? Ddim o bell ffordd! Am un pheth, dyw e ddim yn deg. Medd Cadeirydd y G77 mai sicrhau sicrwydd cyllidebol cyn lleied o genhedloedd fyddai’r unfrydedd ac yn bwysicach oll, yn fy marn i, dydy’r unfrydedd ddim yn dangos clirdeb ar gymorth cyllidol; nid yw’n dweud o le fyddai arian yn dod o, nid yw’n dweud faint byddai pob gwlad datblygedig yn cyfrannu, na chwaith ydyw’n dweud faint byddai pob gwlad datblygol yn derbyn. Does dim arweiniad go iawn ynddo ynghylch dyfodol unrhyw Gronfa Hinsawdd Fyd-Eang. Yn yr un modd, dyw e ddim yn uchelgeisiol. Nid yw’n gosod ei hun fel olynydd i Gytundeb Kyoto, nac ydyw’n gosod targedau ynghylch lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, heb son am rai cyfreithlon rhwymedïol, ac sy’n dilyn y wyddoniaeth difloesg ar yr agenda hwn. Nid oes cyfarwyddyd yn y ddogfen ynghylch rhannu technoleg newydd, ac y mae’n gyfan gwbl yn anghofio lliniaru sectoraidd, sydd wrth gwrs yn allweddol wrth i ni ymgymryd â thaclo’r newid yn yr hinsawdd! Afraid yw dweud: nid yw’r unfrydedd hwn yn rhwymedïol. Nid gytundeb ydyw, ac fe’i ddraftwyd gan ddim ond 5 cenedl o’r 193 oedd yn y gynhadledd; yn ychwanegol at hyn, dim ond nodi’r unfrydedd wnaeth y dirprwyon eraill i gyd, yn hytrach na’i fabwysiadu’n swyddogol. Aflwyddiant llwyr, felly.
Felly lle’r ymlaen o fan’ma? Er lles y Blaned hon, mae’n rhaid i ni gyrraedd dêl yng Nghynhadledd nesaf y Partïon. Rhaid i Gynhadledd Mecsico yn hwyrach elenni rhoi gytundeb i ni, neu’n ddiau, mi fyddwn yn rhedeg allan o amser i gymryd camau effeithiol er mwyn atal unrhyw newid pellach y nein hinsawdd. Beth allwn ni yng Nghymru ei wneud? Wel, mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n parhau i newidd y ffordd yr ydym yn byw er mwyn lleihau ôl-troed carbon ein gwlad, ac mae’n rhaid i ni barhau i lobïo’n harweinwyr – yng Nghaerdydd, Llundain a Brwsel – i gofio fod ganddynt hwy ddyletswydd nid yn unig i’w hunain ac i’w gilydd, and i’n disgynyddion hefyd. Nid yw’r penderfyniadau cywir yn hawdd na’n boblogaidd ond mae’n rhaid dangos arweiniaeth ac uchelfryd er mwyn gwneud cyfiawnder i ni ac i genedlaethau’r dyfodol.
Gan orffen, rhaid nodi mai nid methiant llwyr oedd Copenhagen. Mi ddaeth ef â 193 o wledydd at eu gilydd – aflwyddiant ai pheidio – a chyrhaeddwyd unfrydedd, o leiaf. Cofiwch, nid llwyddiant oedd y Gynhadledd. Mae gennym llawer o waith i’w wneud, ac mae’n wir fod gennym ffordd hir iawn i’w deithio, ond gydag ewyllus gwleidyddol digonol, lobîo cryf, hyderus a phendant gan y bobl, ‘dw i’n ffyddiog y byddwn yn cyrraedd cytundeb er mwyn achub y Ddaear a’n rhywogaeth o fewn y ddeuddeng mis nesaf. Dyna yw’r hyn sydd angen; does dim cwestiwn am hynny."
Er nad yw Cerith yn ei swydd fel Hyrwyddwr bellach, croeso i chi ymweld a'i wefan o'i flwyddyn fel Hyrwyddwr, gyda gwybodaeth am yr hyn iddo wneud drwy gydol 2009, a thra yng Nghopenhagen.
No comments:
Post a Comment