Monday 28 June 2010

Ysgol Haf





Eto eleni mi fydd CymruX yn cymryd rhan blaenllaw yn Ysgol Haf Plaid Cymru ar y 9fed i’r 11eg o Orffennaf. Mae cyfleodd i ehangu ar addysg wleidyddol ac hyfforddiant ymgyrchu yn brin iawn yng Nghymru, felly mae’r penwythnos yn gyfle na ddylid ei golli.

Cost y penwythnos i aelodau o CymruX yw £25. Mi fydd CymruX hefyd yn rhoi bws yn rhad ac am ddim i deithio i Aberystwyth ac yn ôl. Ond cyntaf i’r Felin fydd hi felly brysiwch i archebu eich lle wrth ebostio post@plaidcymru.org.

No comments: