Monday 12 July 2010

Ysgol Haf Plaid Cymru




Gan Emyr Gruffydd, Cangen Cymru X Caerdydd





Nawr ein bod wedi dad-flino wedi penwythnos hynod lwyddiannus yn Aberystwyth, da yw cael ysgrifennu gair am Ysgol Haf Plaid Cymru a rôl aelodau Cymru X yn yr Ysgol Haf.





Cynhaliwyd yr Ysgol Haf i holl aelodau Plaid Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan ddenu nifer go dda o aelodau Cymru X. Cafwyd cyfle i wrando ar nifer o ffigurau amlwg yn y Blaid yn siarad ar wahanol bynciau, yn ogystal â sesiynau hyfforddi ar ganfasio, sut i ddelio â'r wasg leol,


creu taflenni ac ymgyrchu ar lein. Cafwyd sgwrs gan Leanne Wood am syniadau D.J Davies a Raymond Williams, a sut y gallai sosialaeth radical a chenedlaetholdeb y ddau ddylanwadu'n bositif ar y Blaid yn ein brwydr i greu'r Gymru newydd.





Cafwyd dadl agored ynghylch gwleidyddiaeth myfyrwyr a sut i adeiladu ein adain ieuenctid ar gampws nifer i brifysgol. Fel cadeirydd Cymru X Caerdydd, roedd yn ddiddorol cael trafod fy mhrofiad fel myfyriwr sy'n ymwneud â'r Blaid, ac fe gafwyd consensws cryf y byddai'n werthfawr i aelodau Cymru X ymwneud llawer mwy yn ein Hundebau Myfyrwyr ar draws Cymru gan gymryd safleoedd o bwys ar gynghorau a phwyllgorau rheoli'r Undebau. Er hynny, mae'n rhaid cydnabod bod rhaid newid strwythyrau Cymru X er mwyn ei gwneud hi'n haws i ni adnabod lle mae'n cefnogaeth ac adeiladu ar hynny yn briodol. Yn ogystal, trafodwyd rhannu'n mudiad ieuenctid mewn i ddwy adran; un yn delio gyda'r rhai hynny sydd yn yr ysgol, wedi graddio neu yn gweithio, ac adran arall yn arbennig i fyfyrwyr. Buasai pob cyfraniad yn help mawr yn y ddadl ddiddorol hon!





Diddorol a chalonogol oedd clywed ymateb gymaint o bobl ifainc y Blaid a ddaeth i gefnogi'r ysgol Haf. Roedd yn dda gweld cymaint o bobl ifanc yn ymddiddori yng ngwleidyddiaeth genedlaetholgar, ac roedd yn braf clywed nifer yn son mai gwleidyddiaeth radical yw'r ffordd ymlaen i ni fel ieuenctid ac i'r Blaid yn gyffredinol. Cofiwch, os hoffech chi fwynhau digwyddiadau fel hyn yn y dyfodol, neu am wybod mwy am weithgareddau Cymru X yn eich ardal, cysylltwch â ni ar postcymrux@googlemail.com.





Diolch hefyd i'r rhai hynny a ddaeth o bleidiau'r UDB yn Llydaw ac adain ieunctid Mebyon Kernow, Kernow X o Gernyw. Gobeithio y gallwn oll ddysgu wrth ein gilydd gan ymladd dros ryddid i'n gwledydd!





*********************************





It was excellent to see so many people in the Plaid Cymru Ysgol Haf (Summer School) this last weekend. Cymru X featured prominently in the Ysgol Haf with many young people attending the activities, where we learned a lot about campaigning techniques, how to strengthen our youth movement within universities and Student Unions, and on the general history of Plaid Cymru and radical politics in Wales. It was also nice to see so many people who had come over from our sister parties, the UDB in Brittany but mainly Kernow X, the Youth Wing of Mebyon Kernow in Cornwall. Thanks for coming! Let's hope that we can all learn something from each other while fighting for freedom for our nations!





If you would like to be involved in Cymru X and Plaid Cymru activities, be they at a national level like this or in your area or University, contact us on postcymrux@googlemail.com.

No comments: