Tuesday 24 July 2012

Ry'n ni'n newid! We're changing!


Mae'n falch iawn gen i gyhoeddi ar ran y Pwyllgor Gwaith bod CymruX wedi ail-frandio ac o hyn ymlaen, Plaid Cymru Ifanc fydd enw ein mudiad. Plaid Cymru Ifanc yw mudiad ieuenctid a myfyrwyr Plaid Cymru a chydag enw a logo newydd, rydym yn awyddus i sicrhau bod Plaid Cymru Ifanc yn fudiad pwysig o fewn y teulu'r Blaid. Mae'r gwaith yn dechrau'n awr!

Bydd ein cyfrif facebook yn cau cyn hir felly sicrhewch eich bod wedi 'hoffi' y dudalen facebook newydd sef facebook.com/PlaidCymruIfanc.

Rydym wedi diweddaru'n cyfrif twitter hefyd, felly os y'ch chi'n ffan o drydar, gwnewch yn siwr eich bod yn dilyn @plaidifancyouth.

Bydd y blog hwn hefyd yn cau cyn hir a'r gobaith yw y byddwn yn cyfuno'r blog ynghŷd â'r holl wybodaeth am Blaid Cymru Ifanc ar feicro-wefan ynghlwm wrth wefan Plaid Cymru. Cadwch lygad am ragor o wybodaeth!


I am very happy indeed to announce on behalf of the NEC that CymruX has re-branded and our movement will now be known as Plaid Cymru Youth. Plaid Cymru Youth is the youth and student movement of Plaid Cymru and with a new logo and a new name, we are eager to make sure that Plaid Cymru Youth is an important movement within the Plaid Cymru family. The work starts now!

Our facebook account will shortly be deactivated so please make sure that you've 'liked' our new page at facebook.com/PlaidCymruIfanc.

We've also updated our twitter account, so if you're a fan of tweeting, be sure to follow @plaidifancyouth.

This blog will also be closing in the near future with a view to combining the blog element and the more traditional 'website' element on a micro-site attached to the Plaid Cymru website. Keep an eye out for more information!


Cerith Rhys Jones
Cadeirydd Cenedlaethol / National Chair

No comments: