A ddylai pobl ifanc 16 oed allu pleidleisio mewn refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban? Ar ôl i Aileen Campbell MSP yrru llyhtyr i Mike Russell sef y gweinidog sy’n gyfrifol am faterion cyfansoddiadol yn llywodraeth y wlad, fe wnaeth ddatganiad o blaid gostwng oed pleileisio ar annibynniaeth i 16 oed.
Gobaith llywodraeth leiafrifol yr SNP yw cynnal refferendwm ar annibyniaeth y flwyddyn nesaf - ond fe fydd arnyn nhw angen cefnogaeth gan bleidiau eraill cyn gallu gwneud hyn.
Mae deddfwriaeth a gafodd ei basio’n gynharach eleni am alluogi pobl ifanc 16 ac 17 oed i bleidleisio mewn dau etholiad peilot ar gyfer byrddau iechyd Dumfries a Galloway a Fife.
Tynodd Aileen Campbell sylw i’r ffaith bod pobol ifanc 16 oed yn talu treth, yn gallu gwasanaethu yn y lluoedd arfog ac yn gallu priodi ac felly pam na ddylsant gael yr hawl i bleidleisio am eu dyfodol?
“They deserve the right to have their say on the future of the nation.”
Mae’r SNP yn sylweddoli pwysigrwydd gwneud yn siwr bod pobol ifanc yn ymwneud ac yn fwy na dim yn rhan o wleidyddiaeth. Mae gwleidyddiaeth yn gyffredinol yn tueddu i fod yn amherthnasol ac wedi gelyniaethu pobol ifanc. Mae’n bryd cymeryd camau cadarnhaol tuag at ail gynnwys a chysylltu pobol ifanc i’w dyfodol trwy wleidyddiaeth. Beth bynnag fydd canlyniad y refferendwm mi fydd y penderfyniad yn effeithio ar y bobol ifanc ac felly tydi hi ddim ond yn deg eu bod yn cael rhoi pleidlais.
3 comments:
ddylai pobl o dan 18 ddim gael yr hawl i pleidleisio neu ar refferendwm o gwbl. mae nhw ddim yn digon eiddfed ond am yr rhai sydd yn anorak. ond ar ol y chweched dosbarth mae eich farn wedi cael ei ffurffio. Mae mwyafrif pobl o dan 18 yn Cymru ddim efo clem beth yw pwerau y cynulliad. Cyn meddwl am lleihau yr oedran pleidleisio mae'n rhaid i pobl o dan 18 cael yr un hawliau ynglyn a'r minimum wage etc. Mae'n rhaid addysgu pobl o dan 18 a nid lleihaur oedran pleidleisio!! o fi arfer eisiaur pleidliais i cael ei gostwng i 16, ond nawr dwin gallu gweld pam mae ddim wedi oherwydd dydn nhw ddim yn digon aeddefed a wedi liwio barn gwleidyddol eto a fwy neu lai yn mynd i dilyn ei rhieni fel dafad, ond am rhai ohonynt.
Why isn't this blog bilingual? Or do you only represent Welsh speaking Wales?
Post a Comment