Sunday 30 May 2010

Seremoni Cofio'r Rhyfel Cartref yng Nghatalonia

Rhyw fis yn ol cynhaliwyd Seremoni gan gangen Cymru X Caerdydd er mwyn cofio'r Rhyfel Cartref yn Sbaen. Cynhaliwyd y seremoni ar ddydd San Sior (nawddsant Catalonia) ym mharc Alexandria, Caerdydd ar bwys y gofeb i'r Rhyfel. Bwriad y seremoni oedd cofio effaith y rhyfel a'r blynyddoedd o unbennaeth creulon a ddilynodd y rhyfel, ond hefyd i gofio'r degau o filwyr Cymreig, y rhan fwyaf ohonynt o Gymoedd De Cymru, a aeth i frwydro gyda'r lluoedd rhyngwaldol. Cofiwyd y bu iddynt frwydro dros ryddid, heddwch a sosialaeth yn y rhyfel dyngedfennol hon yn erbyn ffasgaeth Franco.

Cyflwynwyd y seremoni gan Emyr Gruffydd, cadeirydd Cymru X Caerdydd. Fe gafwyd darlleniadau gan Llion Williams, Dan Lawrence, Sian Owen a Deian Timms, yn y Gymraeg, yn Saesneg, yn Sbaeneg ac yn y Gatalaneg. Gososdodd Lleu Williams rhosod a chennin pedr (blodau cenedlaethol Catalonia a Chymru) ger y gofeb. Diolch i bob un a ddaeth i wneud y seremoni yn un llwyddianus.
* * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
Last month on St. Geroge's day, the Catalan national day, Cymru X Caerdydd held a ceremony in order to remember the contribution of the Welsh soldiers who went to fight in the international brigades. Thank you to all who came to make the ceremony a success.









No comments: