Mae diwedd y flwyddyn ar fîn cyrraedd ac ydy, mae hi wedi bod yn flwyddyn ddiddorol tu hwnt. Amser yma’r flwyddyn, ry’n ni’n edrych yn ôl ar y 12 mis diwethaf ac ymlaen at y 12 mis sydd i ddod.
Fis Mai eleni, daeth David Cameron a’i gyfaill Nick Clegg i bŵer. ‘Etholwyd’ llywodraeth heb fandad; anghofiodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu hegwyddorion. Do, bu’n flwyddyn ddiddorol.
Bradychwyd myfyrwyr gan y Democratiaid Rhyddfrydol; plaid wnaeth bob Aelod Seneddol ohoni arwyddo datganiad y byddant yn pleidleisio ‘na’ i unrhyw ymdrech i godi ffioedd dysgu. ‘Dw i’n codi ‘nghap at y sawl wnaeth gadw at eu gair, a ‘dw i’n eu diolch. Ond i’r eraill, y rhai wnaeth ymatal, cywilydd.
Ond, diolch i ddatganoli, y mae myfyrwyr Cymru yn ddiogel.
Er ein bod yn edrych yn ôl, mae’n well gen i edrych ymlaen. Bydd 2011 yn flwyddyn enfawr i Gymru – mae gennym refferendwm ym mis Mawrth ac etholiad cyffredinol fis Mai.
Does dim amau fod y refferendwm ymhen 3 mis yn allweddol i ddyfodol datganoli Cymru. Yn yr achos taw ‘na’ yw’r ateb, gwyddom na fydd fawr o obaith i’n datganoli ni am nifer fawr o flynyddoedd. (Edrychwch ar refferendwm 1979 – a’r un nesaf bron iawn 20 mlynedd yn hwyrach.)
Blaenoriaeth CymruX yw sicrhau pleidlais bositif yn y refferendwm ac ry’n ni’n gwybod faint o waith sydd gennym ni i gyd i’w wneud – pob un ohonom. Byddwn ni’n chwarae’n rhan ac yn y misoedd nesaf mi fyddwn ni’n gweithio’n ddyfal ar yr ymgyrch hollbwysig hon.
Wedi hynny, daw etholiad y Cynulliad a chawn obeithio y bydd y Cynulliad newydd hwnnw – y 4edd Cynulliad – yn cael deddfu heb ganiatâd Lloegr. Cawn hefyd obeithio taw Ieuan Wyn Jones fydd arweinydd y 4edd Cynulliad fel Prif Weinidog Cymru.
Oes, mae gennym cryn dipyn o waith i’w wneud ac mae’n bwysig nad ydym yn esgeuluso nac yn troi’n ddi-hid. Mae’r misoedd nesaf o bwysigrwydd aruthrol i’n gwlad ac i’n pobl ac y mae CymruX yn barod am yr her o’n blaen.
Ond, am nawr, rhaid ymlacio... Duw a ŵyr y byddwn yn ei werthfawrogi!
Yng ngolau hynny, gobeithiwn eich bod wedi mwynhau’r Dolig a dymunwn ichi oll, ein cefnogwyr a’n cydweithwyr o bleidiau eraill, 2011 sy’n hapus, yn llewyrchus ac yn llwyddiannus – mae Cymru’n haeddu dim llai.
Dros Gymru,
Cerith Rhys Jones
Ar ran Pwyllgor Gwaith CymruX – Plaid Cymru Ifanc
O.N. I’r sawl ohonoch sy’n dymuno, mae lawnsiad ymgyrch Ie Dros Gymru yng Nghaerdydd ar Ionawr y 4edd. Ebostiwch post@iedrosgymru.com am ragor o wybodaeth. Ebostiwch y cyfeiriad hwnnw hefyd am fanylion ar sut ellwch chi fod yn rhan o’r ymgyrch! Gallwch rhoi’n ariannol at yr ymgyrch hefyd - http://www.iedrosgymru.com/safle/?page_id=43. Diolch!
The brightest and the best
6 hours ago
No comments:
Post a Comment