Monday 19 December 2011

Leanne Wood 2012


Wythnos ddiwethaf, roedd hi'n hynod o galonogol i mi gael clywed bod Leanne Wood, Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru, wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu sefyll am arweinyddiaeth Plaid Cymru yn 2012. Yn ferch o Ben-y-graig yn y Rhondda, rwy'n nabod Leanne yn dda, gan bod fy nheulu i yn hannu o'r un pentref. Ac fel nifer i aelod ifanc o'r Blaid, rwy'n bwriadu cefnogi ei hymgais gant y cant.

Mae Leanne yn ddewis naturiol i mi am nifer o resymau. Fel fi, mae hi'n sosialydd, yn genedlaetholwraig cadarn, yn gefnogwraig brwd o achosion gwyrdd, yn weriniaethwraig, ac yn bwysig iawn, mae ganddi brofiad o fywyd y tu allan i wleidyddiaeth. Mae ei phrofiad yn gweithio yn y Gwasanaeth Prawf ac i elusen Cymorth i Ferched yn dangos ei bod yn deall problemau dyrus ein cymdeithas. I'r rhai sydd yn cwestiynu safon Cymraeg Leanne Wood, mae hi wedi bod yn hynod gefnogol i ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith - yn llawer mwy cefnogol na nifer i AC Plaid Cymru o'r Gorllewin sy'n rhugl ei Gymraeg. Mae gweleidgaeth Leanne am Gynllun Gwyrdd i drawsnewid economi Cymru yn rhoi materion gwyrdd ac adfywio'r economi yn glir ar ei hagenda wleidyddol. Yn ogystal â hyn, mae cariad Leanne tuag at Ben-y-graig, at y Rhondda ac at ei chenedl yn gosod sylfaen ardderchog i'w bwriad i arwain ein Plaid genedlaethol.

Bydd nifer o aelodau mwy traddodiadol Plaid Cymru yn debygol o fod braidd yn amheus o allu Leanne i arwain y Blaid. Er bod Leanne yn dysgu Cymraeg, nid yw'n siarad yr iaith yn hollol rhugl, ac wedi'r cyfan, does dim cefndir gwledig, traddodiadol gan Leanne. Merch o'r Cymoedd yw hi, ardal lle mae Plaid Cymru wedi sefydlu ei hun yn wrthblaid cadarn ond heb dorri trwyddo i fod yn ddewis cyntaf i nifer o etholwyr. Ond dyma pam rwyf yn credu taw hi ydy'r union beth sydd angen ar Blaid Cymru. Yr hyn sydd angen yw rhywun sydd yn cynrhychioli buddiannau pob un person yng Nghymru - nid yn unig buddiannau'r ffermwr a'r Cymro Cymraeg, ond hefyd rhai y ferch trin gwallt o Gaerffili a'r nyrs o Aberdâr.

Fel Cymro Cymraeg sydd wedi fy ngeni a'm magu yn y Cymoedd, rwy'n gwbl argyhoeddiedig mai gyda Leanne mae'r gallu i arwain ein Plaid i fuddugoliaeth yn etholiadau'r Cynulliad yn 2016. Dyma ein cyfle ni i newid cyfeiriad ein Plaid - nid i arwain ein mudiad cenedlaethol ar gyfeiliorn, fel y dywed nifer o'n haelodau mwy traddodiadol, ond yn hytrach yn ôl at werthoedd radical, cenedlaetholgar Plaid Cymru. Wedi'r cyfan, yng Nghymoedd y De y chwifiwyd y faner goch am y tro cyntaf - ac rwy'n fawr obeithiol mai merch o Gymoedd y De bydd yn gyfrifol am ail-ddeffro gwreiddiau radical ein cenedl a'n Plaid yn 2012.

>Gan Emyr Gruffydd, Cadeirydd Cangen Cymru X.Caerdydd. Dim barn Cymru X yw hyn o reidrwydd. >

This is a blog by Emyr Gruffydd, the Chairman of Cymru X Caerdydd, in support of Leanne Wood's campaign for leader. This is not necessarily the opinion of Cymru X.

4 comments:

Anonymous said...

Ydy'r ffaith ei bod hi mor danllud ei gwrth-frenhiniaeth a'i chenedlaetholdeb ddim yn ei gwneud hi'n rhy radical i etholwyr Cymru sydd wrth gwrs yn llai brwdfrydig am y ddau beth na ni ym Mhlaid Cymru?

Os gymharwch chi Leanne efo pobl yn yr SNP sydd yn cefnogi cael y Frenhines fel penaeth y dalaith, ac yn llwyddo dal y tir canol yn hytrach nac aros ar yr ymyl chwith, ydy Leanne ddim yn eich taro fel rhywun y gall wneud mwy o ddrwg na lles i Blaid Cymru?

Er mai gweriniaethwr a chenedlaetholwr ydw i, 'dw i'n poeni mai'r ffordd orau i ennill gweddill y Cymry yw i fod yn llai tanllud ac yn fwy diplomatig am y peth! Megis Simon?

Emyr said...

Rwy'n derbyn papur newydd yr SNP bob cwarter, a cred ti fi, radical iawn yw'r gair y byddwn i yn ei ddefnyddio i ddisgrifio'r hyn sy'n y papur! A'r unig rheswm y mae'r SNP yn dweud y byddant yn cadw'r frenhines fel pennaeth y wladwriaeth yw fel modd i gael rhagor o bobl i fentro cefnogi anibynniaeth i'r Alban yn y refferendwm sydd i ddod. Prin iawn yw'r brenhiniaethwyr pybyr yn yr SNP - dydw i erioed wedi cyfarfod ag aelod o'r Blaid honno sy'n cefnogi'r Frenhiniaeth!

Ac ydy, mae Leanne yn dweud beth mae hi'n ei feddwl ar bob achlysur. Ydy, efallai ei bod hi'n gallu bod yn danllyd ar adegau. Ond dwi'n credu mai rhywun fel hi sydd angen arnom ni, gan bod gymaint o apathi tuag at wleidyddiaeth "bod yn bopeth i bawb" y dyddiau yma. Mae gan Leanne gymaint o gefnogaeth am ei bod hi'n sefyll yn gadarn dros yr hyn mae'n ei gredu - dydy Simon Thomas ddim yn dod drosodd i fi fel rhywun gwahanol. I nifer o bobl, gormod o ddynion canol-oed mewn siwtiau sydd mewn gwleidyddiaeth, ac er mwyn cael mwy o bobl ar ein hochr, mae'n rhaid newid y ffordd ry ni'n dod drosodd.

Rhyd Fach said...

Simon Thomas sydd orau i mi Ems. Ma fe'n brofiadol, huawdl a chall, a dwi'n cytuno gyda popeth ma fe'n ei weud. Dwin genedlaetholwr, yn weriniaethwr, dwi'm yn siwr os dwi'n sosialydd, yn y canol amwn i. Pe bai Adam Price ar hyd lle, bydd hi'n ddewis amlwg, ond ma genai lot o barch tuag at Simon.

Richard said...

Mae'r syniad bod sosialydd a gweriniaethwraig o'r cymoedd yn 'rhy radical' yn rhyfedd iawn i fi!

Son am Blaid Cymru ydyn ni, nid y pleidiau Prydeinig sy'n canolbwyntio ar ennill pleidleisiau Middle England.

Rhaid i ni fyw yn y byd go iawn. Os oes unrhyw obaith o'r Blaid o fod y blaid fwyaf yn y cynulliad mae'n hanfodol i ennill pleidleisiau ac etholaethau yn y cymoedd fel yn 1999, llefydd fel y Rhondda ac Islwyn.

Mae'n amlwg i fi hefyd bod ni angen rhywun gyda syniadau ffres fel y Cynllun Gwyrdd a rhywun sy'n weithgar a chyfathrebu'n dda.

Mae sawl ymgeisydd da yn y ras yma, ond mae'n amlwg i fi taw Leanne yw'r dewis gorau.