'Da ni yma ac yn ei chanol hi. Prynhawn Gwener cafwyd croeso gan Gwenllian Lansdown Prif Weithredwr Plaid Cymru a chael ein siarsio gan Huw Antur pennaeth Glan-llyn i beidio torri'r rheolau megis - bechgyn i beidio mynd i 'stafelloedd merched a.y.b.
Cyn cael swper roedd cyfle i gael dau weithdy - 'Ymgyrch San Steffan' gan Gwenllian ac 'Sut i ennill mewn tir newydd' gan Neil McEvoy. Bwysicaf oll mae'n falch gen i gyhoeddi bod y bwyd yn 5 seren ac mi roeddwn i'n gwneud yn fawr o bob pryd a phwdin!
Ni fyddai noson gymdeithasol Plaid yn gyflawn heb sing song gan icon rhif 6 Cymru gyfan- y dyn ei hun - ein Llywydd - Dafydd Iwan, ond tro 'ma fel trît ychwanegol fe'n diddanwyd gan neb llai na Geraint Lovegreen. Roedd y neuadd dan ei sang wrth i Lovegreen adrodd ei gerddi a chanu alawon hen a newydd gan gynnwys yn briodol iawn y gan Dafydd Elis Thomas. Siomedig iawn oedd y DJ (nid D.J Williams) Er mor holl alluog yw'r Pennaeth Cyfathrebu, Morgan Lloyd, mae dewis playlist allan o'i afael mae gen i ofn.
Aeth pawb am y cae sgwâr yn blant da, rhai yn gynt na'r lleill ( 'da chi'n gwybod pwy yda chi) yn barod am ddiwrnod llawn dop o sesiynau a gweithdai. Er safon uchel iawn y gweithdai bu rhaid i un neu ddau fynd am nap neu 'forty winks' er mwyn gallu para'r diwrnod cyfan. Cafwyd sesiynau megis 'Cyfraith etholiadol a Chyllid Ymgyrchu', sut i 'Ddysgu o Bleidiau Eraill' ac 'datblygu Maniffestos lleol'. Mi siaradais i gyd aelodau o'r Blaid ar sawl lefel boed yn ymgeisydd i actifyddion neu i Brif weithredwyr! oedd yn gweld budd mawr i'r sesiynau ac wedi dysgu rhywbeth newydd a fyddant yn sicr yn ei gario wrth fynd yn nôl i'w canghennau neu rhanbarthau.
Cyn cael swper roedd staff Tŷ Gwynfor wedi trefnu noson o ffug-etholiad. Dyna'r olygfa, neuadd bentref yn Llanbidinodyn, pedair plaid gyda phedwar ymgeisydd, pedwar asiant, pedwar rheolydd ymgyrch a llu o 'counting agents'.
Diben y gweithgaredd oedd tynnu sylw pawb at bwysigrwydd rôl pawb mewn count. Rhoddodd y swyddog canlyniadau sawl trap a bagl er mwyn dal rhai o'r pleidiau allan. Cafwyd achos lle bu i un o aelodau'r Torïaid ddwyn papurau pleidleisio'r Democratiaid Rhyddfrydol ac o dan amgylchiadau go-iawn byddai rhaid ffonio'r heddlu. Roedd hefyd sawl papur pleidleisio wedi ei ddifetha ac felly roedd rhaid i fod ymgeisydd ac asiant ynghyd a'r swyddog canlyniadau fynd drwy'r rheolau gan gytuno ar y papurau hynny oedd yn dderbyniol.
beth bynnag roedd y noson yn llwyddiannus a thensiwn i'w deimlo gyda 'chydig o staff y Torïaid yn digio!
Ar ôl swper aeth pawb i newid i rywbeth chydig bach yn jazzy ac off a ni i Bala wa. Plas Coch oedd y stop cyntaf a'r unig stop. Dros beint mi roth pawb y byd yn ei le, gyda'r aelod o'r SNP yn teimlo'n hapusach mewn cynefin mwy cyfforddus. Dechreuodd 'na rai chwarae Tipit ond mi aeth chwarae'n troi'n chwerw gydag un tîm yn torri rheolau a dechrau chwarae'n fudur. Mi wyddoch chi yn iawn pwy yda' chi y Double Bants.
Bore Sul, pawb yn edrych ymlaen am sesiwn gyda Hywel Williams AS ar sut i greu tîm o ymgyrchwyr i ennill. Gyda'r pwyslais ar ennill. Sesiwn anffurfiol oedd hon gyda thasgau hwyliog tipyn o chwerthin ond roedd y neges wedi ei chario mewn ffordd gynnil. Cyn cau'r ysgol haf mi aeth pawb am ginio dydd Sul oedd bron a bod mor fawr â chinio 'dolig i rai ohona ni. Beth bynnag mae pawb wedi gadael hefo cyswllt newydd a bwysicaf oll wedi creu ffrindiau o fewn y Blaid a thu allan. Dwi'n sicr yn edrych 'mlaen at yr ysgol haf nesaf fydd heb os yn bigyr and betyr.
O.N. Mae'r Bala nawr wedi ei hysbysu ar wallt melfedaidd Ioan Bellin.
CWJ
No comments:
Post a Comment