Ar fore oer main yng Nghaerdydd daeth criw ohonom ni ynghyd i deithio’r holl ffordd fyny i Inverness i Gynhadledd yr SNP. Ar ôl glanio sylweddolais fod y tymheredd tipyn is ond yn ddisgwyliedig gan ein bod ni yn mynd i’r ddinas fwyaf gogleddol yn y Deyrnas Unedig.
Pwrpas ein hymweliad, oedd nid yn unig i gryfhau ein brawdoliaeth gyda ein chwaer Blaid ond i ddysgu ganddi hefyd. Er efallai nad yw polisïau’r Blaid yn hollol unfrydol gyda’r SNP ar y cyfryw mae ein hamcanion yn debyg iawn ac felly o’r herwydd yn golygu ein bod fel dwy Blaid yn cyd-weithio’n aml.
Difyr oedd darganfod bod yr Young Scottish Nationalists (YSI) hefyd wedi bod yn anweithredol ers cryn amser a dim ond yn ddiweddar wedi ail gynnau eu gweithgarwch. Eglurodd y cynghorydd David McDonald sydd hefyd yn Gadeirydd yr YSI fod galw cenedlaethol gan ieuenctid yr Alban ar gyfer adain ieuenctid ond bod diffyg trefn a chydweithrediad wedi achosi i’r adain fynd a’r chwâl ac ddim yn gweithio mor effeithiol ac y gallasant. Ond nawr mae’r sefyllfa yn dra gwahanol gyda’r pwyllgor gwaith cenedlaethol yn cynnal gweithgareddau ar hyd a lled y wlad. Efallai bod hyn yn gymhariaeth dda i sefyllfa CymruX tan yn ddiweddar, ond erbyn hyn yn llwyddiannus dros ben ac ar y trac cywir i fod hyd yn oed yn well.
Cawsom groeso cyfeillgar gan bawb, o’r aelodau etholedig i’r actifyddion i drefnwyr a staff. Cynhadledd fyrlymus a thipyn mwy o ran maint na Chynhadledd y Blaid ond mi roedd yr awyrgylch groesawgar yr un fath. I’w weld yn amlwg oedd cynifer yr arddangoswyr o fudiadau, elusennau, gwmnïau neu sefydliadau hyd yn oed stondin gan Coke ( falle bod gan Iron Bru rhywbeth i’w wneud gyda hynny), ond fel eglurodd un o’r aelodau i mi. “You’d be surprised how much money these organisations are willing to spend on you when you’re in Government.” Beth bynnag aethon ni draw i’r awditoriwm i wrando ar gynigion neu “resolutions” fel y geilw SNP hwy. Doedd y cynigion eu hunain ddim byd sbeshal, ond synnodd Natsaha Cody a mi ar eu dawn llefaru ac areithio. Ni chlywsom ni run aelod yn siarad yn wael ac yn achosi i’r gynulleidfa ddifalsu. Dwi’m yn siŵr iawn beth oedd fformiwla'r ddawn dweud ond yn sicr mi fyddai un neu ddau o aelodau Plaid Cymru yn gallu gwneud hefo dos neu ddau ohono fo. Diolch byth daeth Helen Mary Jones i roi araith y frawdoliaeth. Dechreuodd Helen ar ei haraith yn ddigon hyderus a deallus ac yna allan o nunlla... daeth na dân o’i henaid a’r gynhadledd ar flaenau eu seddau yn clapio ar ôl bron bob brawddeg. Roedd y gynulleidfa gyfan dan ei sang yn barod i godi ar eu traed i sefyll mewn undod a Helen, bloeddiodd y gynulleidfa gan glapio a churo dwylo yn wyllt wrth wrando ar ei haraith. Gorffennodd Helen gyda phob un o aelodau’r gynulleidfa ar eu traed ac arhosodd pawb ar eu traed am bum munud arall. A dyna Plaid Cymru wedi gadael marc ar y gynhadledd yn Inverness 2009.
Roedd araith Salmond yn dra wahanol i’r math rydym ni wedi arfer clywed ond mi oedd hyn yn fwriadol. Araith bwyllog a distaw, fe gadwodd draw o’r jocs a’r sarhau gan yn hytrach sdicio i’r ffeithiau a chydnabod nad oes diben dechrau clodfori eu llwyddiannau cyhyd - mae na lywodraeth Geidwadol ar y ffordd i San Steffan!
Mi allai gario mlaen adrodd fy hanes wrth yr awr, ond dwi’n tybio mai diflasu fydde chi a fi! Felly os am glywed am yr hynt a helynt dewch i gysylltiad, ac os am wybod beth oedd cyfrinach e’u ‘dawn dweud’- ceisiwch shot o chwisgi (Oban) gyda Iron Bru a fyddwch chi ddim yn bell o fod rhywbeth tebyg i Adam Price ar lwyfan!
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment