Wednesday 7 October 2009

CymruX yn Ystalyfera

Cerith Rhys Jones a Jenny Ann Hopkin, Cadeirydd Gweithredol ac Is-gadeirydd Gweithredol Cangen Ysgol Gyfun Ystalyfera, CymruX Plaid Cymru

Ar ôl trafod sefydlu cangen CymruX Plaid yn yr ysgol ers amser gyda Phrif Weithredwraig y Blaid, y Cyng. Ddr. Gwenllian Lansdown. Wedi i ni gyfarfod â’n gilydd dros yr hâf, penderfynnom i gymryd y cam nesaf, sef cyfarfod gyda rai o gynrychiolwyr y Blaid yn Nhŷ Gwynfor. Yn y cyfarfod ‘roedd Gwenllian Lansdown, Bethan Jenkins AC, Caryl Wyn Jones (Cadeirydd Cenedlaethol CymruX) a Colin Nosworthy (ymgeisydd i’r Cynulliad dros Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed). Trafodon sut yn union byddem yn trefnu’r cangen ac phan ailddechreuodd y flwyddyn academaidd, aethom ati i drafod hyn gyda’n cyd-fyfyrwyr yn Ysgol Gyfun Ystalyfera.

Datblygon gyflwyniad pwynt pŵer i’w ddangos mewn cyfarfod â’r ysgol hŷn – sef tua 300 o bobl ifainc – er mwyn hysbysebu’r gwaith ‘rydym yn gobeithio’i gyflawni ar ran y Blaid.

‘Roeddem yn falch iawn â’r croeso cawsom, yn ychwanegol at yr adborth rhoddwyd gan y myfyrwyr a gan y corff dysgu. Cawsom, hyd yn oed, gwyn allanol wedi ei wneud yn ein herbyn drwy’r Awdurdod Addysg Leol – o leia’ mae’n dangos ein bod yn generadu rhywfaint o ymateb, yn enwedig wrth y Blaid Llafur, mae’n debyg!

‘Rydym yn y broses o gasglu’n ôl ffurflenni ymaelodi â’r cangen, ac chyn gynted ag y bod hynny wedi ei wneud, byddwn yn trefnu’n cyfarfod cyntaf i weithio ar gynllun o’r hyn y bwriadwn ei gyflawni fel cangen.

Oes oes diddordeb gyda chi mewn rhoi cyflwyniad yn eich ysgol yna peidiwch petruso cysylltu gyda CymruX ar postcymrux@googlemail.com.

No comments: