Friday 15 May 2009

Pleidiol wyf i'm gwlad?


Dwi am gydnabod reit ar y dechrau, stori ydi'r blog yma yn hytrach 'na barn am newyddion wleidyddol. Ond hei ma na angan amrywiaeth mewn bywyd does.

Mi sylwch mai llinell o'n hanthem Genedlaethol yw teitl y darn. Yn fwy na thebyg bydd y mwyafrif o Gymry wedi bloeddio canu'r anthem drosodd a throsodd mewn llu o gyngherddau, llwyfannau a Stadau chwaraeon. Ond faint sydd wedi aros eiliad a chysidro ystyr yr hyn mae pawb mor barod a balch o'i ganu. Nid rhoi erthygl ar ystyr ffeithiol gywir Evan James ydwi, ond yn hytrach yr ystyr o'm safbwynt i.
Ers yn blentyn mae fy rhieni wedi gwneud yn siwr bod ysytr y geiriau 'pleidiol wyf i'm gwlad' yn gadarn goncrit yn fy is - ymwybod. Gan nad ydw i'n gallu cofio nac ailadrodd yn union beth oedd rhesymeg eglurhad y geiriau dyna pam rwy'n honni mai yn fy is- ymwybod mae'r wybodaeth wedi ei storio.

Mae pleidleisio dros dy wlad yn swydd ac anrhydedd a hanner. Efallai bod y disgrifiad ychydig bach yn emosiynnol ac dros ben llestri yn enwedig yn yr hinsawdd wleidyddol bresennol gyda treuliau Aelodau Seneddol o dan y chwydd-wydr. Ond ar y cyfan yn bersonnol credaf mai y gallu i bleidleisio yw un o hawliau pwysicaf ein cenedl. Dyma yn sicr ces i fy magu i gredu, nid yn unig y pwysigrwydd o bleidleisio, ond i bleidleisio i Blaid oedd yn cynrychioli dy wlad- ' Pleidiol wyf im gwlad'. Felly cwestiwn nesaf dybiwn i oedd, pa Blaid sy'n cynrychioli fy ngwlad? Yr ateb syml yn ôl eglurhad fy rhieni oedd- Plaid Cymru. Dwi'n ymwybodol iawn bod y canlyniad yn gawslyd tu hwnt ond dwi'n licio Brie a Camembert a does gen i ddim problem cyfaddef hynny chwaith! Ond go iawn, pa Blaid arall sy'n cynrychioli y Cymry yn unig ac yn llwyr. Ni allai Plaid Cymru wneud dim, ond cynrychioli Cymru. Nid Lloegr, yr Alban, na Gogledd Iwerddon ond Cymru. Mae cant y cant o waith a gweithgarwch y Blaid yn cael ei wneud yn llwyr i Gymry yng Nghymru. Mae pob polisi, maniffesto, pwyllgor, ymgyrch a penderfyniad yn cael ei wneud er lles Cymru. Mae'r pencadlys yng Nghymru, mae pob un aelod etholedig yn byw yng Nghymru a phob aelod o staff. Credfa bod hyn yn allweddol er mwyn deall anghenion y bobol. Sy'n wahanol iawn i Bleidiau fel Llafur, Y Ceidwadwyr neu y Democratiaid Rhyddfrydol. Sut allai etholwyr fod yn sicr mai gweithio yn llwyr ac er mwyn lles Cymru yn unig mae'r partïon yma? Yn fwy na dim yn rhoi cant y cant i Gymru? Ar sawl achlysur mae'r pleidiau hynny wedi gorfod tynnu'n groes i'r blaid yn San Steffan. Wyddwn i ddim amdanoch chi ond gyda pleidiau megis Llafur a'r Ceidwadwyr, mae'r blaid bridol yng Nghymru yn teimlo ac efalliai yn eil-radd. Pam pleidleisio i blaid wleidyddol sy'n trin Cymru yn eil-radd ac efallai is-raddol.
Wrth gwrs yn ferch ifanc gyda'r eglurhad brysiog gan Mam ar flaen fy meddwl, ni allwn i weld pam byddai unrhwyw un yn pleidleisio am unrhyw Blaid arall yn hytrach na Phlaid Cymru. Dwi wedi tyfu fyny rwan (byddai rhai yn dweud fel arall) ac yn sylweddoli nad yw pethau mor ddu a gwyn. Ond mae'r neges yn sefyll, 'pleidleisia i blaid sy'n cynrychioli dy wlad' a phwy ond Plaid Cymru sy'n gwneud hynny?
Mae'r eglurhad gan fy rhieni a gefais yn blentyn wedi aros hefo mi hyd heddiw, tydw i ddim yn honni bod dyfynnu yr anthem genedlaethol yn sail ennill unrhyw hystings neu yn destun polisi i'r maniffesto.
Dim ond stori yn adrodd hanes dechrau fy nhaith gyda Plaid Cymru.

No comments: