Yn dilyn cyhoeddiad Comisiwn y Cynulliad ni fyddai cyfieithiadau o drawsgrifiadau o’r Saesneg i’r Gymraeg o sesiynau llawn y Cynulliad yn cael eu cynhyrchu o hyn ymlaen, ar Ddydd Sadwrn yr Eisteddfod Genedlaethol galwodd yr Arglwydd Gwilym Prys-Davies am Fwrdd Iaith Statudol yn ei araith fel Llywydd yr Ŵyl.
Pam torri’r cyfieithiadau?, gofynnwch; yr ateb - i arbed arian. Yn ôl y Comisiwn, a gadeiriwyd gan Lywydd y Cynulliad yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, bydd y toriadau’n arbed £250’000 y flwyddyn i’r Cynulliad. Serch y ffaith fod gan Gymru dwyieithrwydd felly, mae’r sesiynau llawn yn dilyn yr un llwybr â’r pwyllgorau.
Mae hyn yn dodi’r siaradwyr Saesneg yn y blaenllaw gan nad ydynt nhw ddim yn siarad yr Iaith ond yn anfanteisiol i ymgyrchwyr a siaradwyr yr iaith Gymraeg fyddai fel arfer yn darllen y trawsgrifiadau yn eu hiaith ddewisol nhw, sef yr y Gymraeg. Ers sefydlu’r Cynulliad, mae pob trawsgrifiad wedi bod yn ddwyieithog ond nawr, byddan nhw ond wedi eu cyfieithu i’r Saesneg os siaradwyd yn wreiddiol yn y Gymraeg, a ddim y ffordd arall o gwmpas.
Mae Prif Weithredwr Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Geraint Wyn Parry wedi siarad am siom y gymdeithas ynghylch penderfyniad y Comisiwn, a bod y gymdeithas “yn gobeithio na fydd hyn yn gosod cynsail ar sefydliadau yn y sector cyhoeddus i gwtogi ar gyfieithu dogfennau pwysig.” Meddai hefyd y byddai’r symudiad yn effeithio’n fawr ar ddiwydiant cyfieithu Cymru, yn enwedig yn y gogledd-orllewin, lle mae’r gwaith wedi ei gyflawni ers rhai blynyddoedd bellach.
Yng ngwyneb hyn, fel y sonnir uchod, galwodd un o brif wleidyddion y blaid Llafur, yr Arglwydd Gwilym Prys-Davies, am fwrdd iaith statudol yng Nghymru, pan ddaw Bwrdd yr Iaith Gymraeg i ddiwedd ei yrfa, a hynny o fewn flwyddyn neu ddwy, meddai ef. Soniodd am y ffaith mai’r Capeli oedd cryfder yr Iaith eisoes ond y nawr, gyda bod cyn lleied yn mynychu’r Capel, y mae’r fro Gymraeg “yn dal i grebachu yn hynod o gyflym am resymau sy’n hysbys i ni i gyd, ond mae’n ymddangos na allwn eu rheoli, o leiaf ar hyn o bryd.”
Meddai am yr angen i agor trafodaeth ar yr hyn fyddai dyletswyddau a chyfrifoldebau’r fath bwrdd nawr ac ystyried y gwrthddadleuon yn ofalus. Gyda’r genhedlaeth nesaf, awgrymodd, y mae’r pŵer a’r gallu i sicrhau dyfodol ein hiaith. Er iddo ddweud fod dyfodol agos yr iaith yn “gadarn obeithiol”, soniodd nid oes lle eto i ystyried dyfodol hirdymor yr iaith yn ddiogel.
Ac y mae hyn i gyd yn digwydd cyn lansiad y ffôn symudol cyntaf erioed sy’n cefnogi’r iaith Gymraeg. Ar Fedi’r 1af, bydd Orange a Samsung yn lawnsio’r model ‘S5600’ gyda’r iaith Gymraeg arno, efo ryw 44,000 o eiriau Cymreig yn y geiriadur testun dyheadol ar-system.
Lansiwyd rhywbeth tebyg y llynedd lle’r oedd ffôn ar gael yr oedd yn cefnogi’r iaith Wyddelig. Bydd yr S5600 Cymraeg ar gael mewn siopiau Cymreig i ddechrau, ond yna’n ymestyn i Phrydain-oll ar sail naill ai gytundeb neu ar y cynllun ‘pay as you go’.
Efallai gellid ystyried hyn yn gam enfawr o ran hybu defnydd bob dydd yr iaith ymysg pobl ieuanc; yn aml, caiff technoleg newydd ei baru i fyny gyda phobl ifainc. Mae’n ffôn weddol dechnolegol - efo sgrin cyffwrdd a’r deunyddiau mwyaf modern megis Bluetooth, galwadau fideo, y We a chwaraeydd radio ac MP3.
‘Sgwn i os fyddai Gwilym Prys-Davies yn cytuno mai dyma’r fath o beth y mae’n son am - am bobl ifainc (y genhedlaeth newydd) yn cymryd y penderfyniad i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd? Mae’n siŵr y byddai’r rhai sy’n mynnu ar feddalwedd iaith Gymraeg ar eu ffônau symudol hefyd yn mynnu darllen trawsgrifiadau o gyfarfodydd llawn y Cynulliad yn yr iaith.
Y dasg inni yw sicrhau fod y math o bobl sydd yn archebu’r S5600 Cymraeg yn ymgymryd â phroses gwleidyddol Cymru, a hynny drwy’r iaith Gymraeg ymhob agwedd o’r hyn â wnëir gan y Cynulliad.
Can even Trump get something right?
2 days ago
No comments:
Post a Comment