Mae Ffeiriau Glas Prifysgolion a Cholegau Cymru ar fin ein cyrraedd ac mi fydd CymruX gobeithio gyda cynrychiolaeth mewn nifer helaeth. Mae ffeiriau’r glas yr un mor boblogaidd ac erioed i fyfyrwyr newydd sy’n ysu am brofi pawb a phopeth yn eu wythnos cyntaf. Wnewch chi fyth anghofio eich wythnos gyntaf yn y brifysgol. Mae popeth mor newydd a chyffrous - symud i ardal newydd, cwrdd รข ffrindiau newydd, setlo mewn a dod i adnabod lleoedd a phobl newydd. Mae’n gyfle i ddatblygu eich rhwydwaith o ffrindiau a defnyddio eich oriau hamdden yn weithredol ac yn adeiladol. Datblygu eich sgiliau rhyngbersonol a’ch hyder, a mwynhau ar yr un pryd.
Dyma un o wythnosau mwyaf cymdeithasol y flwyddyn, felly ymunwch yn yr hwyl a’r sbri!
Dyma’r lle perffaith i’r Blaid a CymruX gyhoeddi ei neges a cheisio denu aelodau newydd ac ifanc.
Dyma ddyddiadau a lleoliad pob un ffair y bydd CymruX ynddi.
Medi 16: Coleg Sir Benfro
Medi 21: Prifysgol Caerdydd
Medi 22: Coleg prifysgol y Drindod
Medi 23: Prifysgol Bangor
Prifysgol Abertawe
Medi 24: Prifysgol Bangor
Prifysgol Abertawe
Medi 29: UMCA, Aberystwyth
Medi 30: Prifysgol Aberystwyth
Os oes gan unrhyw fyfyriwr sydd mewn Prifysgol yn barod neu yn cychwyn o’r newydd fis nesa ddiddordeb ein helpu, yna bydden ni’n ddiolchgar iawn. Cysylltwch gyda ni ar postcymrux@googlemail.com
Only four years?
23 hours ago
No comments:
Post a Comment