***Please scroll down for the English Version***
Wel, ma’r etholiad wedi cael ei alw, a heb phoeni gormod am amser, allan oeddwn i ar y stryd yn taflenni yng Nghwm Gwendraeth ar y diwrnod cyntaf. Ond beth odd yn ddiddorol tra yn siarad gyda cymydog i fyny’r lon oedd hyn,
“Wel Duw, ti bach yn ifanc i fod allan gyda’r lecsiwn? New kids ar y bloc ife?” yn sarcastig.
A wnaeth hyn i fi feddwl, ynghyd a blog gwych Dominic Hannigan ar Wales Home heddiw, odi hyn yn golygu, yn 23 oed, fy mod i yn rhy ifanc i fod yn rhan o’r broses ddemocratiaeth yn y wlad yma? Neu odi gwleidyddiaeth wedi cyrraedd y pwynt hynny lle os nad ydw i’n ddyn hanner cant oed mewn siwt, ni fyddai’n edrych fel wleidyddwr?
Yr hyn sydd yn bwysig am unrhyw ymgeisydd eithrio oed, rhyw, credodau, anableddau neu chefnidr ethnig yw y gallu i gynrhychioli pobl, ac mae hyn yn wir mewn unrhyw maes pinnau Etholiad Cyffredinol, undebau myfyrwyr neu fel llywodraethwr mewn ysgol neu choleg. Dwi’n cofio cael ebost ychydig o fisoedd yn ol gan Undeb Myfyrwyr yn Lloegr rhywle, yn gofyn os oedd unrhyw undeb wedi gosod rheolau ar ei etholiadau sabathol a oedd yn sicrhau fod gan y person etholedig radd cyn cymryd y swydd etholedig. Eto, yr ymateb oedd “peidiwch a fod yn ddwl, y gallu i gynrychioli yw’r hyn sydd yn gwneud yr ymgeisydd yn gymwys”.
Dwi wir yn poeni am hyn, gan fod yna gymaint o dalent ifanc o fewn Cymru, nid yn unig gyda Phlaid Cymru, ond gyda’r partion eraill a chyfundrefnau eraill hefyd. Y peth gwaethaf fyddai fod pobl ifanc yn cael ei troi i ffwrdd o wleidyddiaeth gan ymagweddau tebyg i hyn. Mae’n bwysig yng Nghymru i adeiladu ar, yn fy marn i, traddodiad newydd o gael phobl ifanc i fewn i wleidyddiaeth. Dwi ddim yn disgwyl a bydd y Cynulliad yn Mai 2011 yn llawn pobl yn oed i, ond mae’n bwysig cael y cytbwysedd o wahanol phrofiadau i sicrhau fod pawb yn cael ei llais wedi clywed.
Yn ol ymchwil gan y Joseph Rowntree Foundation yn 2007, y brif rhesymau dros pobl ifanc ddim yn ymgysylltu a gwleidyddiaeth oedd ei bod nhw’n ei weld yn ddiflas, nid oedd unrhyw wleidydd yn apelio iddynt ac roedd polisiau’r brif partion yn Llundain ddim wedi anelu at bobl ifanc o gwbl (ar wahan i bolisi y Democratiaid Rhyddfrydol ar ffioedd ychwanegol, a gafodd ei scrapio mewn tro)! Ynghyd ag hyn, pryd mae gwleidyddion yn ymgysylltu ag myfyrwyr mewn ardaloedd prifysgol, fel gwelir gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn Abertawe, Aberystwyth a Chaerdydd Canolog, mae pobl ifanc yn ido am wleidyddiaeth- a mae nhw’n GALLU gwneud gwahaniaeth mawr yn y sbectrwm wleidyddol mewn ardaloedd lleol. Mae ymgyrch diweddar Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ar bleidleisio dros myfyrwyr wedi cael effaith mawr, gyda phrif neges yr ymgyrch i gael myfyrwyr i lobio eich ymgeiswyr lleol i bleidleisio yn erbyn codiad mewn ffioedd ychwanegol mewn prifysgolion, ac ar hyn o bryd mae wedi gweithio!
Yn y Cynulliad, mae gennym ni Nerys Evans AC a Bethan Jenkins AC, ac fel ymgeiswyr yn yr Etholiad Cyffredinol ma gennym ni o Blaid Cymru, Caryl Wyn Jones, ac o’r Democratiaid Rhyddfrydol Matt Smith a Dominic Hannigan, sydd yn wych! Mae hyn yn gyfle, nid yn unig i Gymru X, ond i bob barti yng Nghymru i ymgysylltu a phobl ifanc yn rhan o’r broses ddemocratol.
I gloi, beth wedes i mewn ymateb i’r cymydog busneslyd?
“We are the kids, but we are also the future, be prepared Mrs Davies”
Lleu Williams, Pwyllgor Gwaith Cymru X
Well, the election has been called, and without wasting any time, I was out on the doorstep leafletting in the Gwendraeth Valley on the first day with no hesitation. But what was interesting was the comment whilst speaking with my neighbour further up the lane,
“Good God, your a bit young to be out with this election aren’t you? New kids on the block is it?” she notes sarcastically.
And this got me thinking, alongside Dominic Hannigan’s amazing blog on Wales Home, does this mean, that at 23 years old, I am too young to be part of the democratic process in this country? Or has politics reached that stage that unless I am a middle aged man in a suit, I won’t look like a politician?
What’s important about any candidate regardless of their age, sex, beliefs, disabilities or ethnicity is their ability to represent people, and this is true within any field be it General Election, Students’ Unions or as a governor within a college or school. I remember receiving an email a few months ago from a Students’ Union in England somewhere, asking that if any union had placed any rules in their sabbatical elections that ensured tha the elected officer had a degree before taking office. Again, the response was “don’t be stupid, it’s the ability to represent is what makes the candidate competent.”
I really do worry about this, because there is so much talent within Wales, not only within Plaid Cymru, but with other parties and organisations as well. The worst thing would be if young people were turned off by politics because of such attitudes that exist. It’s important that Wales, in my view, builds upon this new tradition of getting young people into politics. I don’t expect that the Assembly in May 2011 will be full of people my age, but it’s important to get the balance of different experiences to ensure everyone’s voice is heard.
According to research conducted by the Joseph Rowntree Foundation in 2007, the main reasons young people didn’t engage with politics was because they saw that it was boring, politicians didn’t appeal to them and that the policies of the main parties in London weren’t aimed at young people at all (apart from the Lib Dems policy on top up fees, which in turn was scrapped)! In addition to this, when politicians engage with students in university areas, as can be seen by the Lib Dems in Swansea, Aberystwyth and Cardiff Central, young people do care about politics- and they CAN make a difference to the political spectrum in local areas. The recent campaign by NUS on vote for students has had a massive impact, with the main message of the campaign focusing on students to lobby their PPC’s to pledge voting against further fees in universities, and its working!
In the Assembly, we have Nerys Evans AM and Bethan Jenkins AM, and as PPC’s in this year’s General Election from Plaid Cymru, we have Caryl Wyn Jones, and from the Lib Dems Matt Smith and Dominic Hannigan, which is fantastic! This is an opportunity, not only for Cymru X, but for every party in Wales to engage with young people as part of the democratic process.
To finish, what was my response to the nosey neighbour?
“We are the kids, but we are also the future, be prepared Mrs Davies”
Lleu Williams, Cymru X National Executive
Wishing Everyone a Happy Christmas
5 days ago
1 comment:
A well written and thought provoking post.
Lleu, while in party terms we differ, you have an admirable quality that I would love to see more in Sabbatical officers in NUS and Unions across the UK. That is, you can see the vision of the young, regardless of political views. I prescribe to the idea that Sabbaticals work as politically neutrally as they can, and strive for success for students in the political arena no matter who they are and what they believe. I hope i come as close to it as you do.
This is why you are a great Sabb, and someone who will go far.
Post a Comment