Ar nos Sadwrn yr 11eg o Chwefror, cynhaliwyd noson hynod lwyddiannus, llawn ffroes/crempog/pancos/crêpes (!!) a seidr gan gangen Caerdydd i godi arian at weithgarwch ysgolion Diwan yn Llydaw. Cafodd pawb lond eu boliau o fwyd a seidr a llond eu clustiau o gerddoriaeth draddodiadol drwy'r nos! Ysgolion sydd yn dysgu trwy gyfrwng yr iaith Lydaweg yw'r Diwan, a thrwy Lydaw, amcangyfrifir bod tua 14,000o blant yn derbyn addysg trwy gyfrwng yr iaith. Canran fychan iawn o blant a phobl ifanc Llydaw yw hyn, fodd bynnag, wrth ystyried bod nifer tebyg yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn Rhondda-Cynon-Taf, Pen-y-bont a Merthyr yn unig. Ni dderbynia'r ysgolion fawr ddim cymorth ariannol oddi wrth y wladwriaeth Ffrengig, felly maent yn dibynnu ar roddion a charedigion yr iaith. Er ein bod yn dal i boeni am sefyllfa'r Gymraeg, i raddau, pwysig iawn ydy cyfrif ein bendithion trwy ystyried pa mor anodd ydy hi ar nifer i iaith leiafrifol arall yn Ewrop. Codwyd dros £65. Trugarez mat/ Diolch yn fawr i bwyllgor y gangen am drefnu.
On Saturday the 11th of February, a very successful evening, full of pancakes and cider, was held by Caerdydd branch in aid of the Diwan schools in Britanny. Everybody had a great time eating Breton crêpes and drinking (cheap) cider to the accompaniment of folk music all night! The Diwan are schools that provide education through the medium of the Breton language to around 14,000 children throughout Britanny. However, this is a very small percentage, considering that the same amount of children receive their education in Welsh in Rhondda-Cynon-Taf, Bridgend and Merthyr alone. Hardly any support is given to them by the French state, so the schools depend heavily on donations by people who are supportive of the language. Although we still worry about the situation of our own language, it's important to count our blessings on ocassions like these and stand in solidarity with minority languages in Europe who are in a far worse situation. Over £65 was raised. Trugarez mat / Diolch to the Branch committee for organizing the event.
The brightest and the best
1 day ago
No comments:
Post a Comment