Saturday 25 February 2012

Cadeirydd CymruX: Pam 'dw i'n cefnogi Leanne

Fe gyrhaeddodd fy mhapur pleidleisio Plaid Cymru'r bore 'ma a 'dw i'n falch iawn o allu dweud fod pawb yn fy nhŷ i wedi gosod Leanne Wood fel eu dewis cyntaf ar gyfer Arweinydd y Blaid. Yn bersonol, Leanne yw fy newis cyntaf, Elin Jones fy ail ddewis, a'r Arglwydd Elis-Thomas yn drydydd.

'Dw i am gymryd munud neu ddwy i ddweud wrthych chi pam 'dw i'n credu mai Leanne yw'r dewis gorau allan o'r tri sydd yn y ras hwn, os ga'i.

Y mae Leanne yn genedlaetholwraig i'r carn, yn weriniaethwraig gref ac yn sosialydd ddiamod. Ond mae modd dweud yr holl bethau hyn am y fenyw arall yn y ras hefyd, felly beth sy'n rhoi mantais i Leanne dros yr ymgeisyddion eraill? Imi, yr hyn sy'n gwneud Leanne yn ymgeisydd ffantastig yw ei gweledigaeth i Gymru, ffresni'i hymgyrch hi, a pha mor cyffrous o beth yw'r rhagolwg o'i chael hi'n arweinydd ar Blaid Cymru.


Nid oes profiad helaeth ar ochr Leanne - o leia, nid profiad fel Gweinidog yn y Llywodraeth neu fel gwladweinydd uchel ei fri. Ond eto, y mae ymgyrch Leanne wedi llwyddo i ysbrydoli pobl ledled Cymru'n fwy na'r ymgyrchoedd eraill. Mae 'na rhai sydd wedi dweud bod Leanne yn rhy radical neu'n rhy dryw wrth adain chwith y Blaid i allu ei huno. Ond wrth y bobl hynny, mae'n rhaid imi ofyn - ydych chi'n cael eich cyffroi cymaint gan yr ymgyrchoedd eraill ag ydych chi gan ymgyrch Leanne? Ymgyrch fywiog, llawn syniadau ydyw, a does dim amau mai arweinydd bywiog, llawn syniadau fydd hi.

Y mae ei Chynllun Gwyrdd i'r Cymoedd hi'n sylfaen ar gyfer maniffesto etholiadau lleol y Blaid eleni ac fel mae nifer - gan gynnwys cyn-Lywydd y Blaid a'r arwr Cymraeg, Dafydd Iwan - wedi nodi, y mae ei gwleidyddiaeth hi'n mynd yn ôl at graidd gwleidyddiaeth Plaid Cymru. Mae'n wleidyddiaeth o gymuned ac o gyd-weithredu. Ond yr hyn sy'n arbennig - sy'n sbesial - am ei hymgyrch hi, yw ei bod yn cyfuno'r elfen honno o fod yn dryw wrth egwyddorion a gwreiddiau ein Plaid ni, ond y mae hefyd yn ymgyrch fodern ac yn symbol o fenyw y bydd yn symud ein Plaid ymlaen ac yn ei chreu hi'n gartref gwleidyddol naturiol i bobl o bob cwr o Gymru - o'n cadarnleoedd yn y gogledd a'r gorllewin, at y gogledd-ddwyrain, a'i deheubarth diwydiannol brodorol.

Mi fydd Leanne yn arweinydd gwych ar Blaid Cymru ac felly, dwi'n eich hannog chi oll i'w gosod hi'n ddewis cyntaf ar eich papurau pleidleisio. Am fwy o wybodaeth am ymgyrch Leanne, ewch i'w gwefan.

- CERITH RHYS JONES
Cadeirydd Cenedlaethol CymruX

O.N. Er mai polisi swyddogol CymruX yw i gefnogi Leanne Wood, noder mai fy marn i yw'r hyn y sydd uchod.

No comments: