Saturday, 18 February 2012

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol / AGM

Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol CymruX yng Nghaerfyrddin heddiw ac mae'n bleser dweud y bu'n gyfarfod llwyddiannus iawn, gyda nifer yn fwy o wynebau na'r arfer. Cafwyd drafodaethau difyr ynghylch dyfodol y drefniadaeth yn ychwanegol at sesiwn hystings gyda Leanne Wood AC a Dafydd Elis-Thomas AC. Yn anffodus, nid oedd modd i Elin Jones AC fynychu'r cyfarfod o achos tostrwydd - dymunwn wellhad buan iddi.

Y mae hefyd yn bleser cyhoeddi y pasiwyd cynnig polisi a oedd yn cynnig fod CymruX yn cefnogi ymgyrch Leanne Wood i olynu Ieuan Wyn-Jones fel Arweinydd Plaid Cymru. Y mae Leanne wedi bod yn ffrind i'n trefniadaeth ers talwm a diolchwn iddi hi am ei chefnogaeth ar hyd y blynyddoedd.

Etholwyd y Pwyllgor Gwaith newydd ar gyfer y flwyddyn 2012-13:

Cadeirydd: Cerith Rhys Jones
Is-gadeirydd: Emyr Gruffydd
Ysgrifennydd: Charlotte Britton
Trysorydd: Gwenno George
Swyddog Polisi: Osian Lewis
Swyddog y Wasg: Glenn Page
Swyddog Di-bortffolio: William Thomas
Swyddog Di-bortffolio: Branwen Alaw Evans
Cynrychiolydd De Ddwyrain Cymru: Dan Lawrence
Cynrychiolydd De Orllewin Cymru: Glesni Morgan

Yr ydym oll yn frwdfrydig dros ail-greu CymruX fel trefniadaeth weithgar a phwysig sy'n rhoi llais gref i fyfyrwyr ac ieuenctid o fewn Plaid Cymru... mwy o fanylion i ddilyn!

Carem ddiolch Lleu Williams a'i Bwyllgor Gwaith 2011-12 ef am eu gwaith hwy a dymuno'n dda iddynt oll.


Our AGM was held in Carmarthen today, and it's a pleasure to be able to report that it was indeed a very successful meeting, with many more faces than usual. We had a range of interesting discussions about the future of our organisation, as well as an hustings session with Leanne Wood AM and Dafydd Elis-Thomas AM. Unfortunately, Elin Jones AM was not able to attend the meeting due to illness - we wish her a swift recovery.

It is also a pleasure to report that a policy motion was passed stating that CymruX supports Leanne Wood's campaign to succeed Ieuan Wyn Jones as Leader of Plaid Cymru. Leanne has long since been a friend of our organisation and we thank her for her support throughout the years.

The new National Executive Committee for the 2012-13 year was elected:

Chair: Cerith Rhys Jones
Vice-chair: Emyr Gruffydd
Secretary: Charlotte Britton
Treasurer: Gwenno George
Policy Officer: Osian Lewis
Press Officer: Glenn Page
Non-portfolio Officer: William Thomas
Non-portfolio Officer: Branwen Alaw Evans
South East Wales Representative: Dan Lawrence
South West Wales Representative: Glesni Morgan

We are all enthusiastic about recreating CymruX as an effective and important organisation which gives students and youth a strong voice within Plaid Cymru... more details to follow!

We wish to thank Lleu Williams and his 2011-12 NEC for their hard work and wish them all the very best.


Cerith Rhys Jones
Cadeirydd CymruX / CymruX Chair

No comments: