Wednesday 14 March 2012

Daw'r diwedd

Yfory, cyfrir y pleidleisiau yn etholiad arweinyddol Plaid Cymru a dyma ddiwedd ar gyfnod Ieuan Wyn Jones fel Arweinydd y Blaid, swydd y mae ef wedi'i dal ers 12 mlynedd.

Bydd y sawl ohonoch sy'n dilyn y blog hwn yn gwybod mai polisi swyddogol CymruX yw cefnogi ymgyrch Leanne Wood i'w olynu. Os nad ydych chi wedi pleidleisio eto, fe'ch hanogaf i ddewis Leanne fel eich dewis cyntaf i fod yn Arweinydd ac i ddanfon eich papur pleidleisio at Dŷ Gwynfor yn syth fel ei fod yn cyrraedd cyn yfory.

Ond wrth i'r ymgyrch Arweinyddol ddirwyn i ben, hoffwn gymryd moment i dalu teyrnged i Ieuan am ei arweinyddiaeth am dros ddegawd. Y mae wedi arwain ein Plaid gyda sgil ers blynyddoedd, ac wedi bod yn wyneb arbennig o dda i'n mudiad cenedlaethol yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae'r teyrngedau a dalwyd iddo o ar draws llawr y Siambr yn ystod ei sesiwn FMQs olaf fel Arweinydd y Blaid ddydd Mawrth yn adlewyrchu'i boblogrwydd.

Ef wnaeth arwain y Blaid i mewn i Lywodraeth am y tro cyntaf ac fe wasnaethodd ein gwlad fel ei Dirprwy Brif Weinidog. Fel Arweinydd Plaid Cymru, fe arweiniodd ni at ddelifro senedd go iawn i'n Cenedl. Ac yn y dyddiau cynnar, roedd yn un o'r bobl wnaeth droi'r prosiect datganoli i mewn i'r llwyddiant y mae heddiw.

Edrychaf ymlaen at ei weld ar ôl-feinciau'r Blaid, yn brwydro dros bobl Ynys Môn ac ys dywedodd Kirsty Williams, gobeithiaf y bydd yn cymaint o drwbl o'r ôl-feinciau ag y mae cyn-arweinwyr eraill wedi bod.

Ar ran mudiad myfyrwyr ac ieuenctid Plaid Cymru, hoffwn ymestyn fy niolchiadau calonog i Ieuan am ei wasanaeth ar hyd y degawdau, a dymuno'n dda iddo wrth iddo ymadael wrth yr Arweinyddiaeth.

Cerith Rhys Jones
Cadeirydd Cenedlaethol

No comments: