Mae'n bleser gen i allu danfon neges o longyfarchiadau enfawr i Leanne Wood AC ar ei hetholiad fel Arweinydd newydd Plaid Cymru.
It's a pleasure for me to be able to send a message of congratulations to Leanne Wood AM on her election as the new Leader of Plaid Cymru.
Mae cael Leanne fel Arweinydd y Blaid yn rhoi gobaith imi fod gan y Blaid flynyddoedd disglair iawn o'i blaen a chyda digon o waith, nid wyf yn amau mai Leanne Wood fydd Prif Weinidog Cymru yn 2016.
Having Leanne as Plaid Cymru's Leader gives me hope that the party still has a sparkling future ahead of it and with plenty of work, I have no doubt that Leanne Wood will be the First Minister for Wales in 2016.
Ar lefel bersonol, rwyf i'n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda Leanne tra fy mod i'n Gadeirydd ar y mudiad myfyrwyr ac ieuenctid, ac hoffwn ddiolch iddi am ei charedigrwydd tuag at ein mudiad ni ar hyd y blynyddoedd.
On a personal level, I am very much looking forward to working with Leanne while I am Chair of the student and youth movement, and I would like to thank her for her unwavering support of our movement.
Yn ogystal, hoffwn dalu teyrnged i'r dau ymgeisydd arall - Elin Jones AC a'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC. Fe frwydron nhw ymgyrchoedd da iawn wir a does dim amheuaeth yn fy meddwl i y bydd y ddau ohonynt yn aelodau annatod o dîm Leanne yn y Cynulliad.
I would also like to pay tribute to the other two candidates - Elin Jones AM and the Lord Dafydd Elis-Thomas AM. They both fought good campaigns and there is no doubt in my mind that they will both form important parts of Leanne's team in the Assembly.
Pob lwc - ymlaen! Good luck!
Cerith Rhys Jones
Cadeirydd Cenedlaethol || National Chair
Wishing Everyone a Happy Christmas
4 days ago
No comments:
Post a Comment