Showing posts with label ieuenctid. Show all posts
Showing posts with label ieuenctid. Show all posts

Wednesday, 25 July 2012

Datganiad i'r wasg: Ymgyrch 'Gwaith i Gymru'

Ddydd Sul y 29ain o Orffennaf, bydd Plaid Cymru Ifanc, adain ieuenctid a myfyrwyr Plaid Cymru, yn lansio ymgyrch ‘Gwaith i Gymru.’

Pwrpas yr ymgyrch fydd dwyn sylw at y gwirionedd brawychus bod bron iawn chwarter o Gymry rhwng 16 a 24 oed yn ddi-waith ac i alw Llywodraeth Cymru i’r gâd i weithredu er mwyn atal y sefyllfa ofidus hon sydd yn groes i’r tuedd Prydeinig. Lansir deiseb i’r Cynulliad Cenedlaethol yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i taclo diweithdra ymysg pobl ifainc ar yr un diwrnod.

Caiff yr ymgyrch ei lansio yn ystod Ysgol Haf flynyddol Plaid Cymru y’i chynhelir y penwythnos hwn yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog.

Meddai Cerith Rhys Jones, Cadeirydd Cenedlaethol Plaid Cymru Ifanc:

"Oherwydd llwyr ddiogi Llywodraeth Cymru a pholisïau distrywgar y llywodraeth glymbleidiol yn San Steffan, mae yng Nghymru filoedd o bobl ifainc sydd heb waith. Mae perygl mawr mai cenhedlaeth goll fydd eu cenhedlaeth nhw.

"Yn anffodus, mae’n well gan Lywodraeth Cymru ddefnyddio polisïau ffôl Llywodraeth San Steffan fel modd o ennill pwyntiau gwleidyddol. Nid gêm gwleidyddol yw bywydau a swyddi pobl ifainc Cymru, felly rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys i ddodi cynlluniau effeithiol a phositif ar waith er mwyn creu gwaith i Gymru."


Ychwanegodd Leanne Wood AC, Arweinydd Plaid Cymru:

"Mae’r ffigurau ynghylch diweithdra ieuenctid yn ddychrynllyd a dylent weithredu fel catalydd am weithdrediad brys ac uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Mae 23.7% o bobl rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru heb waith; nid yw hwn yn dderbyniol.

"Mae diweithdra ieuenctid yn difetha gormod o obeithion a dyheadau – mae yn barod yn tagu gormod o gymunedau, a nifer o hwythau heb eto ymadfer wedi dirwasgiadau blaenorol. Mae Plaid Cymru Ifanc yn llygad ei lle’n blaenoriaethu ymgyrchu dros swyddi ac yn erbyn diweithdra ieuenctid. Rwyf felly’n llawn gefnogi’r ddeiseb y’i lansir fel ran o ymgyrch 'Gwaith i Gymru!'"


- DIWEDD -

Cysyllter â Cerith Rhys Jones (cerithrjones@live.co.uk) am ragor o wybodaeth.

Mae Plaid Cymru yn rhoi’r hawl i chi ddefnyddio unrhyw rai o’n lluniau ar www.flickr.com/plaidcymru i’w cyhoeddi neu’u defnyddio ar-lein.

Friday, 21 October 2011

Noson Gymdeithasol CymruX Caerdydd Cardiff Social Evening

Chwilio am rywbeth i'w wneud heno? Dewch draw i noson gymdeithasol CymruX Caerdydd (Myfyrwyr Plaid Cymru) am 7yh ym Mango's (yn agos at dafarn y Flora yng Nghatays, Caerdydd) i gwrdd, trafod a mwynhau gyda'ch cyd-genedlaetholwyr!

Looking for something to do tonight? Come to the CymruX Cardiff (Plaid Cymru Students) social evening at 7pm in Mango's (near the Flora in Cathays, Cardiff) to meet, talk and enjoy with your fellow nationalists!