Emyr Gruffydd, Is-Gadeirydd Cenedlaethol / National Vice-Chair English version belowYr wythnos diwethaf ces i'r cyfle i gynrychioli Plaid Cymru Ifanc yng Nghynhadledd Flynyddol EFAy, neu Ieuenctid Cynghrair Rhydd Ewrop. Cynhaliwyd y gynhadledd yn Ljouwert, sef prifddinas Ffrisia. Yng Ngogledd yr Iseldiroedd y lleolir Ffrisia, ac mae iddi ei hiaith, ei thraddodiadau a'i senedd ei hunan. Cyhaliwyd y gynhadledd yr un pryd â Chynhadledd Flynyddol EFA, a welodd dros 150 o bobl yn dod at ei gilydd o dros 30 mudiad gwleidyddol o bob rhan o Ewrop.
Roedd y cyfle i gwrdd a nifer o gynrychiolwyr ifanc o bleidiau ar draws Ewrop yn un gwych. Bum yn siarad a chymdeithasu gyda phobl ifanc o Gatalwnia, Fflandrys, yr Alban, Mallorca, Ffrisia, Corisca ac o leifafrifoedd ieithyddol megis Daniaid yr Almaen. Cafwyd cyfle i rannu ein profiadau fel ymgyrchwyr ifanc, gan gymharu technegau ymgyrchu a sefyllfaoedd presennol ein mudiadau ieuenctid. Yn wir, roedd hi'n ddiddorol gweld bod rhai gwledydd ymhell ar y blaen, yn ymgyrchu dros annibyniaeth, (megis yr Alban a Chatalonia) ag eraill dal heb sicrhau statws swyddogol i'w hiaith (fel y Ffrisiaid). I mi, prif fwriad y gynhadledd oedd i ddysgu rhywbeth oddi wrth ein gilydd. Dyliai'r rhai hynny sydd yn dal i frwydro dros statws swyddogol i'w hiaith neu i'w lleiafrif allu dibynnu ar gefnogaeth y gwledydd bychain mwy llwyddiannus o fewn EFAy - y rhai hynny sy'n brwydro dros gyrraedd annibyniaeth, hynny yw.
Roedd y gynhadledd yn diddorol yn ei hun - er hynny, credaf y gallai mwy o amser wedi cael ei rhoi i drafod cynllun gwleidyddol hir-dymor i'r sefydliad, a buasai'n dda bod wedi gweld rhagor o gynigion a thrafodaeth arnynt. Y flwyddyn neaf, buaswn i'n hoffi gweld hyd yn oed mwy o gynrychiolaeth o ystod ehangach o fudiadau gwleidyddol ifanc ar draws Ewrop yn dod i'r gynhadledd, gan ychwanegu at ddyfnder y drafodaeth.
Er hynny, does dim amheuaeth bod EFAy ac EFA yn werthfawr iawn fel mudiadau. Er ein bod ni, er engrhaifft, yn gallu dysgu llawer oddi wrth Gatalwnia, lle mae'r iaith yn ffynnu a'r achos genedlaethol yn blodeuo, neu oddi wrth yr Alban lle y bydd refferendwm dros annibynniaeth yn cael ei chynnal ymhen ychydig flynyddoedd, mae'n hollbwysig nodi ein bod yn medru dysgu oddi wrth y rhai hynny sydd yn dal i frwydro yn erbyn talcen caled iawn. Roedd gweld dycnwch y Ffrisiaid i sicrhau statws gyfartal i'w hiaith a brwdfrydedd Daniaid yr Almaen i ddiogelu eu diwylliant wir yn ysbrydoliaeth i mi fel Cymro ac ymgyrchwr. Mae'n ddigon rhwydd i'n cenhedlaeth ni anghofio am yr aberth mawr a wnaethpwyd i sicrhau llwyddiant ein hachos genedlaethol a'n hiaith heddiw - rhai fel Gwynfor, DJ Davies, Saunders Lewis a Jennie Eirian - a'n bod yn anwybyddu’r ffaith ein bod ni hefyd arfer bod yn yr un sefyllfa â llawer o’n cymrodyr Ewropeaidd heddiw.
Felly iawn - mae'n bwysig i edrych i'r Alban am ysbrydoliaeth weithiau - ond dylid cofio nad ydynt yn dal yr atebion i bopeth, wedi'r cyfan!
***********************************
Last weekend I had the opportunity to represent Plaid Cymru Youth in the EFAy General Assembly, (European Free Alliance Youth). The conference was held in Ljouwert, the capital city of Friesland. Friesland is situated in the north of the Dutch State, and it has its own language, traditions, and parliament. The GA was held in conjunction with the EFA Conference, which saw over 150 people come together representing 30 different political organisations from across Europe.
The opportunity to meet young political activists from all over Europe was excellent. I met and socialised with young people from nations such as Catalonia, Flanders, Scotland, Mallorca, Friesland, and Corsica and from linguistic minorities such as the Danish speaking minority in Germany. We had the opportunity to share our experiences as young activists, comparing campaign techniques and sharing the present situation of our youth movements. It was quite interesting to note that some countries seem to be well ahead in their national cause (such as the Scots and the Catalans who are campaigning for independence) where other nations are still fighting for equal status for their languages or nations (like the Friesians). I believe that those who are still fighting for equal status or recognition should be able to depend on the support of more successful parties within EFAy – i.e, those who are fighting for independence for their nation.
The conference in itself was interesting- however, I do believe that more time could have been put aside to discuss a long-term political plan for the organization, and it would have been good to see more varied motions and broader discussion. Next year, I would like to see even more representation from youth political organisations from across Europe, adding scope and depth to the discussion.
However, there is no doubt that EFAy and EFA are both valuable organisations. Although we in Wales, for example, can learn a lot from Catalonia, where the language is thriving and the national cause is in full swing, or from Scotland where a referendum on independence will be held in a few year, we must never forget that we can also learn from those nations and minorities who are still battling on the coalface. Seeing the Friesians’ determination to ensure an equal status for their language, and the enthusiasm of the Danish minority in Germany for their culture really inspired me as a Welshman and an activist. It is easy for our generation to ignore the sacrifice made by past generations to advance our national cause - figures such as Gwynfor, DJ Davies, Saunders Lewis and Jennie Eirian – forgetting that we were once in that difficult situation that many of our European comrades are faced with today.
So OK – it is important to look to Scotland now and again for a bit of inspiration – but we must remember that they do not hold the answers to everything, after all!
No comments:
Post a Comment