Thursday 12 April 2012

Diwrnod Gweithredu | Day of Action


Ar Ddydd Sadwrn yr 21ain o Ebrill, bydd Plaid Cymru Ifanc yn cynnal Diwrnod Gweithredu. Bydd nifer ohonom ar y Pwyllgor Gwaith yn treulio’r diwrnod yn ymgyrchu yng Nghaerdydd. Mae 4 aelod o Blaid Cymru Ifanc yn ymgeisyddion yn ward Cathays, ac mae’n dda gen i’i ddweud bod nifer helaeth o ymgeisyddion ifainc gyda Phlaid Cymru ar draws y wlad. Mae’r etholiad hwn yn hollbwysig i Blaid Cymru ac i’r wlad; dyma’n cyfle ni i ethol byddin o bencampwyr lleol i amddiffyn cymunedau ledled Cymru a’u gwasanaethau cyhoeddus.

Bydd Llywydd EFAy, sef adain ieuenctid Cynghrair Rhydd Ewrop, y blaid y mae Plaid Cymru’n perthyn iddi yn Ewrop, yn ymuno â ni yn y Brifddinas ar yr 21ain. Os hoffech chi ymuno â ni, byddwn yn cwrdd am 10.30 y.b. o flaen Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ar Blas y Parc. O’r fan honno, byddwn yn canfasio o amgylch Cathays hyd nes 13.00, pan gawn cinio. Yna, am 14.30, byddwn yn symud i lawr i Benarth i helpu canfasio lle mae Osian Lewis, sy’n aelod o’r Pwyllgor Gwaith, a Luke James, sy’n gyn-gadeirydd ar fudiad ieuenctid y Blaid a nawr yn Lywydd ar Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, yn ymgeisyddion dros y Blaid.

Os nad ydych chi’n gallu ymuno â ni yng Nghaerdydd, ‘dw i’n eich annog i ymgyrchu yn eich cymuned leol chi. Mae’n bwysig dros ben ein bod yn lledaenu neges y Blaid yn ystod yr etholiad hwn lle bynnag, pryd bynnag ac at bwy bynnag y gallwn!

On Saturday 21 April, Plaid Cymru Youth will be holding a Day of Action. Many of us who are NEC members will spend the day campaigning in Cardiff. Four Plaid Cymru Youth members are candidates in the Cathays ward and I’m happy to say that Plaid Cymru has a large number of other young candidates all across Wales. This election is extremely important for Plaid Cymru and for the country; here’s our chance to elect an army of local champion to protect communities across Wales and the local services they value so much.

The President of EFAy, which is the youth wing of the European Free Alliance, to which Plaid Cymru is affiliated in Europe, will be joining us in the Capital on the 21st. If you’d like to join us, we’ll be meeting at 10.30 am outside Cardiff University Students’ Union on Park Place. From there, we’ll be canvassing in the Cathays ward until 13.00, when we’ll stop for lunch. Then, at around 14.30, we’ll move down to Penarth to help canvass with Plaid Cymru’s candidates there – Osian Lewis, who’s a member of our NEC, and Luke James, our former Chair who is now President of Swansea University Students’ Union.

If you’re not able to join us in Cardiff, I encourage you to campaign in your own community. It’s essential that we spread Plaid Cymru’s message for this election wherever, whenever and to whomever we can!


Yng ngeiriau ein arweinydd / In the words of our leader - YMLAEN!

Cerith Rhys Jones
Cadeirydd Cenedlaethol | National Chair

2 comments:

Anonymous said...

Sut aeth e?
How did it go?

Emyr said...

Mae ar y 21ain! Dere os ti moyn!