Thursday 19 April 2012

Plaid Cymru Ifanc - Cangen Bangor


Gan Mair Rowlands, Ymgeisydd dros y Blaid ym Mangor

Mae’n gyfnod cyffrous ym Mangor ar hyn o bryd gyda cangen myfyrwyr Plaid Cymru yn ail gychwyn yma a hefyd gyda’r ymgyrch etholiadau lleol, lle mae 2 ohonom sy’n aelodau Plaid Cymru Ifanc, Illtud Jones a minnau (Mair Rowlands), yn sefyll yn Ward Menai Bangor. Mae’n dda gweld cymaint o ymgeiswyr ifanc yn sefyll, ac mae gennym griw da o fyfyrwyr ym Mangor sydd wedi bod yn helpu gyda’r ymgyrch.

Mae Menai Bangor yn cael ei gynrychioli ar hyn o bryd gan ddau gynghorwr y Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd Plaid Cymru yn agos ati yn yr etholiadau lleol diwethaf, ac gan fod gan y ward boblogaeth uchel o fyfyrwyr gallwn ddisgwyl gostyngiad mawr yn y gefnogaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae’n rhaid i ni ysgogi cefnogaeth ar draws y ward, ac os ydym am gynyddu y nifer sy’n pleidleisio oedd dim ond yn 19.34% nol yn 2008, mae’n rhaid i ni gael y myfyrwyr allan i bleidleisio trwy bwysleisio bod Plaid Cymru yn blaid a fydd yn ymladd ar eu ran.

Roeddem yn ddigon lwcus i gael cwmni Leanne Wood arweinydd newydd Plaid Cymru ym Mangor nos Lun. Roedd pawb yn gyffrous iawn i’w chael hi yno - roedd o’n hawdd iawn siarad â hi, ac mae hi’n bendant yn apelio at bobl ifanc. Bu trafodaeth ddiddorol iawn ynglŷn a pob math o faterion; materion lleol, sefyllfa’r economi a diweithdra, Wylfa B, ynni adnewyddadwy a llawer mwy cyn i ni fynd allan i ganfasio. Mae’n rhaid i mi gyfaddef bo fi heb gael llawer o brofiad blaenorol o ganfasio ond roedd cael Leanne yna gyda ni yn hwb mawr. Roedd yr ymateb gan y mwyafrif yn gadarnhaol a chefnogol, ac roedd y ffaith bod Leanne yno gyda ni wedi creu argraff.

Gyda dim ond ychydig dros bythefnos i fynd tan ddiwrnod yr Etholiadau rydym am wneud popeth a allem i ledaenu neges Plaid Cymru a pwysleisio fod pleidlais i’r Blaid yn bleidlais dros Gymru well!

Mae cangen myfyrwyr y Blaid ym Mangor wedi trefnu gig sy’n arwain i fyny at yr etholiad fydd ar Nos Wener y 27ain o Ebrill am 8pm - noson o adloniant gyda Crash Disco, Rosary a Yr Ayes yng Nghlwb Rheilffordd Bangor i godi arian i’r Blaid ac i Eisteddfod yr Urdd Glynllifon. Y gobaith ydi y gallwn ddenu criw ifanc newydd i ymwneud â’r Blaid gyda’r math yma o ddigwyddiadau. Mi fyddai’n wych pe byddai modd trefnu digwyddiadau fel hyn ar draws Cymru i ddenu mwy o aelodau ifanc.

1 comment:

Anonymous said...

Gwych! Llongyfarchiadau a phob lwc!