gan Cerith Rhys Jones
Mi fydd rhai pobl gwrth-ddatganoli’n dweud y lleiaf o bŵerau sydd ym Mae Caerdydd, y gorau. Byddan nhw’n dweud ni fyddai Cymru fach yn gallu goroesi fel gwlad sydd ganddi fwy o hunan-ymreolaeth nag sydd yn bresennol. Sut fedrwn ni amddiffyn ein hunain?, fydd eu cwestiwn hwy. Sut fedrwn ni gynnal gwasanaethau cyhoeddus?, fyddai cwestiwn arall. Ond os nad oes gan Gymru hunan-ymreolaeth ym maes fydd, yn y blynyddoedd nesaf, yn tyfu mewn pwysigrwydd, sef yr amgylchedd a newid hinsawdd, fy nghwestiwn i ydy sut fedrwn ni oroesi’r argyfwng newid hinsawdd?
Gweler Llywodraeth Cynulliad Cymru fel un o lywodraethau rhanbarthol blaenllaw’r byd pan ddaw hi at dargedau torri carbon; targed Cymru yw, o 2011 ymlaen, i dorri allyriadau carbon gan 3% yn flynyddol. Ond ydyw’r targed hynny’n ddigon? Ddim yn ôl yr Athro Kevin Anderson (Cyfarwyddwr Ymchwil, Canolfan Tyndall D.U.); mi ddywedodd ef wrth Gomisiwn Newid Hinsawdd Llywodraeth y Cynulliad fyddai’n well cael targed o deirgwaith yr un presennol. Gallai codiad o 4°c yn nhymeredd y byd olygu fod llawer o dde Ewrop yn troi’n anialwch, fod 85% o fforest law yr Amason yn marw ac fod ‘bom amser’ carbon yn cael ei adael bant oddi ar briddellau yn yr Arctig. Mae daroganau’n awgrymu, ymhen hanner canrif, fydd Cymru mwy fel Groeg ac fydd Groeg yn ddidrigiadwy.
Er fod gan Gymru Weinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwydd a Thai, dim ond pŵerau cyfyngedig ynghylch yr amgylchedd a newid hinsawdd sy’n bodoli yn y Senedd. Ac serch hynny, mae Cymru’n Un, sef llywodraeth clymblediol Llafur/Plaid Cymru, wedi gwneud popeth yn ei allu i weithredu targedau, newidiadau a strategaethau sydd wir yn arwain y ffordd ym Mhrydain a’r byd. Ond dydy cyrraedd rhwymedigaethau’r Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ddim yn ddigon – dylai fod gan Lywodraeth Cynulliad Cymru hollbŵer yn y maes er mwyn iddo wneud gwahaniaeth treiddgar yng Nghymru fydd yn effeithiol ar bobl Cymru mewn modd cadarnhaol.
Enghraifft o modd tanseiliwyd llywodraeth Cymru’n ddiweddar yw’r terfynell nwy naturiol hylifol (LNG) yn Sir Benfro, fe’i agorwyd gan EM y Frenhines, EUB Dug Caeredin ac EUB Dug Efrog yn ychwanegol at Sheikh Hamad bin Khalifa Al-Thani, Sheikha Mozah Bint Nasser Al-Missned a’r Sheikha Hind Bint Hamad Al-Thani (Teulu Brenhinol Catâr) ar Fai’r 12fed 2009. Rhoddwyd caniatâd sefydlu’r terfynell gan San Steffan heb ystyried Bae Caerdydd, ac heb orfod gwneud ddefnydd o’r gwres mi fydd yn cynhyrchu drwy gynllun gwres a phŵer cyfunedig (CHP). Mae pŵerau cyfyngedig y llywodraeth hefyd yn golygu ni fyddai gan y Cynulliad ddweud ar os arddodir gorsaf pŵer niwclear arnom, serch cynllun i Gymru fod yn hunangynhaliol yn egni adnewyddadwy, a gwrthiant eang yn erbyn egni niwclear yn ein gwlad.
Er crêd a gobeithion nifer o bobl, y mae Cymru yn wlad sydd yn gyfoethog yn ei chyfleoedd i feithrin egni adnewyddadwy. ‘Rydym yn wlad sydd yn llawn bryniau ac sydd wedi ei amgylchynu bron yn gyfan gwbl gan ddŵr. Mae’r cyfleoedd ar gael ini ac y mae’n bwysig felly, ini sicrhau ein bod yn ymfalchïo ynddynt hwy, a gwneud y gorau ohonynt. Cymru yw’r allyrwr 13eg uchaf o garbon i bob person yn y byd i gyd, ac hynny serch y ffaith fod ein llywodraeth yn arwain y ffordd ynghylch torriadau yn allyriadau nwyon tŷ-gwydr.
Beth yw llywodraeth ond corff ffuriwyd i ddeddfu dros bobl y wlad, ac felly, paham na roddir pŵerau deddfu go iawn i’n llywodraeth ni fel ei fod yn gallu gwneud gwahaniaeth dda, effeithiol a gweithredol yng Nghymru fel ein bod yn manteisio ar yr holl cyfleoedd sydd gennym fel gwlad?
Ym mis Rhagfyr elenni, bydd y Cenhedloedd Unedig yn cynnal trafodaethau yng Nghopenhagen i ddilyn y “Kyoto Protocol” ac fydd ein Gweinidog Amgylchedd ni yn cynrychioli Cymru yno. Mae nifer o bobl yn disgwyl ar y trafodaethau fel cyfle olaf i wneud gwahaniaeth gweithredol ynghylch newid hinsawdd cyn i drychinebau anferthol cymryd llef. Trychinebau fydd, o bosib, yn cymryd bywydau miloedd hyd yn oed milynau o bobl, ac yn dadleoli miliynau eraill. Ar ôl i lefel dŵr y môr godi, byddwn yn colli llawer o dir ac fydd clefydau megis y cryd (malaria) yn lledaenu’n eang hyd
yn oed yma yng Nghymru a Phrydain. Bydd y gwres anioddefol yn golygu problemau mawr i ddioddefwr clefydau resbiradol megis y fogfa (asthma). Serch ein hymdrechion presennol, mi fydd y problemau yma i gyd yn digwydd. Yr unig beth gallwn ni wneud yw ymdrechu i leihau unrhyw niwed pellach. Fydd trafodaethau’r C.U. yn rhoi’r cyfle yna i ni – ac mae’n hanfodol bwysig ein bod, fel hîl, yn cymryd y cyfle.
Yr union sefyllfa sydd yng Nghymru – dyma’n cyfle olaf ni i wneud wir gwahaniaeth ac mae’n hanfodol bwysig ein bod, fel cenedl, yn ei gymryd. Ond os nad oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru’r pŵer cyfreithlon i ddeddfu ynghylch newid hinsawdd yn hytrach na San Steffan, pa gobaith sydd ini achub ein hunain? Pa gobaith sydd ini wneud wir gwahaniaeth? Dim.
Af yn ôl i’r baragraff cyntaf: “Sut fedrwn ni amddiffyn ein hunain?, fydd eu cwestiwn hwy. Sut fedrwn ni gynnal gwasanaethau cyhoeddus?, fyddai cwestiwn arall.” Ers amser, mae gwyddonwyr wedi rhybuddio os nad ydym yn cymryd camau sylweddol a chryn yn erbyn newid hinsawdd, ni fyddwn yn gallu amddiffyn ein hunain na chynnal gwasanaethau cyhoeddus. Ac felly os nad oes gan Gymru’r teclynau i gyflawni’i swydd, mae fy nghwestiwn gwreiddiol i’n ailymddangos: “sut fedrwn ni oroesi’r argyfwng newid hinsawdd?”
Rhaid trosglwyddo holl bŵerau deddfu dros newid hinsawdd a’r amgylchedd i Fae Caerdydd nawr, er mwyn gwneud cyfraith a chymryd camau treiddiol, effeithiol, yng Nghymru, gan Gymry ac i Gymru.
Only four years?
23 hours ago
No comments:
Post a Comment