Friday 19 June 2009

Keeping up with the Kinnocks

Os fyddai'n ddigon ffodus i raddio hâ' ma, mi fydd na bosibilrwydd go gryf y byddai yn ysgwyd llaw gyda Mr Neil Kinnock. Y fo ydi Llywydd Prifysgol Caerdydd. Dwi wedi cael y (fraint) o'i gyfarfod o'r blaen, erbyn meddwl mi gynigiodd o waith i mi yn swyddfa ei wraig ym Mrwsel. Ond mai di rhoi'r gora i hynny erbyn rwan, efallai mod i'n gwybod pam…

Mae Neil a'i wraig Glenys wedi derbyn dros ddeng miliwn mewn arian lwfans ac haeddiannau pensiwn yn ystod eu hamser yn gweithio yn y Senedd Ewropeaidd yn Mrwsel. Mae'r ffigwr anferthol yma wedi ei ddatguddio gan y grwp 'Open Europe'. Think Tank yw Open Europe sydd yn ymgyrchu am well tryloywder o dreuliau ASE'au.

Dim ond mater o amser fydd hi pan fydd rhaid datgelu treuliau ASE'au hefyd. Nid oes gan etholwyr Prydian lawer o hyder yn eu aelodau etholedig mwyach felly bydd rhaid datgelu y treuliau gan aelodau o'r Senedd Ewropeaidd.
Nid yw Neil nac Glenys wedi rhoi unrhyw ddatganiad i'r wasg ynglyn a cheisio cyfiawnhau y swm swmpus o £10 miliwn eto. Mae'r tren greifi Ewropeaidd wedi cyraedd y steshon ac mae'r ddau yn neidio ffwrdd.

Mae'n amser caled ar nifer o bobol nawr gyda di-weithdra ar ei waethaf yr economi yn araf ac nifer o weithwyr yn cael eu penisynau wedi ei cwtogi. Ac felly mae clywed am y Kinnock's yn derbyn cymaint o arian yn fy ngwneud i'n gyfoglyd. Nid ydwi'n honni am un eiliad na ddylsai'r ddau gael tâl am eu gwaith ond yn hytrach bod y tâl hwnnw yn deg.

Felly os yw Neil a Glenys eisiau cael gwared o dipyn bach o'r arian, mae gen i 'chydig o syniadau.

*Talu fy menthyciad myfyriwr. - Anhebygol
*Cyfrannu £500,000 at Gist Brwydr 2011 Plaid - Anhebygol Iawn!
*Cyfrannu ar gadw Ysbytai ac Ysgolion Cymru ar agor.- Llafur ddim yn cîn
*Cadw'r DFB rhag cau ym Mhen y Bont ar Ogwr?

Mae'r rhestr yn faith.

1 comment:

Emyr said...

Immense - allen nhw rhoi sub i gangen Cymru X o Brifysgol Caerdydd, wy'n siwr bydden nhw wrth eu bodd!

:o)