Erbyn hyn, mae yn amlwg fod Llafur wedi colli’r Etholiad Ewropeaidd yng Nghymru.
Llwyddodd y Ceidwadwyr i gynyddu eu pleidlais o bron i 2% ac ennill y bleidlais genedlaethol yng Nghymru am y tro cyntaf erioed. Er hynny, yr oedd perfformiad Plaid Cymru hefyd yn gryf, a chynyddu wnaeth ein pleidlais ninnau, gydag ail-ethol Jill Evans i Senedd Ewrop.
Yn naturiol, rydym yn siomedig fod y Torïaid yn gwneud yn dda, ond bydd ein henillion ni a’r modd y perfformiodd Plaid mewn llefydd megis Llanelli lle bu aelodau Cymru X yn helpu, yn caniatáu i ni ddal ati i adeiladu at y dyfodol. Dal i gynyddu y mae’r gefnogaeth i’r Blaid ym mhob etholiad ers 2007.
Chwaraeon aelodau Cymru X rôl allweddol ym mhob cwr o Gymru yn yr ymgyrch hon, a bu’n un llwyddiannus. Mae llawer o genedlaetholwyr ifanc wedi dysgu sgiliau newydd ac wedi magu mwy o hyder yn ystod ymgyrch yr etholiad. Carem ddiolch i Jill Evans sydd yn wastad wedi cefnogi Cymru X, ac edrychwn ymlaen at ei gweld yn parhau i ymgyrchu dros Gymru yn Ewrop.
By now it is clear that Labour have lost the European Elections in Wales.
The Conservatives managed to increase their vote by almost 2% and win the national poll in Wales, for the first time ever. Plaid Cymru's performance however, was also strong and we saw our vote increase as well, with Jill Evans being returned to the European Parliament.
Naturally we are disappointed at the Tories doing well, but our own gains and the way Plaid performed in places such as Llanelli where Cymru X members helped, will allow us to keep building for the future. Support for Plaid continues to increase at every election since 2007.
Cymru X members have played a pivotal role throughout Wales in this campaign and it has been a succesful one. Many young nationalists have learnt new skills and boosted their confidence during the election campaign. We would like to thank Jill Evans who has always supported Cymru X, and look forward to seeing her continue to campaign for Wales in Europe.
Only four years?
23 hours ago
No comments:
Post a Comment