Mae’r daith wedi dod i ben ar ôl 6 mis hir mewn 23 lleoliad. Felly beth yw’r canlyniad?
Trafod dyfodol Cymru oedd prif ddiben y daith wrth yn gyntaf hyrwyddo’r ffordd mae’r Cynulliad yn gweithio ar hyn o bryd ac yna gofyn barn Cymry ar roi mwy o bwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mi fydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi yn mis Tachwedd ar yr ymateb a gasglwyd.
Ond ydy’r daith wedi meidryddu barn y cyhoedd? Ydy’r confensiwn wedi llwyddo ennyn diddordeb y cyhoedd? A’i barn y cyhoedd yn gyffredinol sydd wedi cael ei ystyried?
Mis Tachwedd fydd hi cyn cael ateb dybiwn i. Ond yn sicr mae’r daith wedi codi ymwybyddiaeth ar y posibilrwydd boed yn bwyntiau positif neu negatif ar gael refferendwm ar fwy o bwerau i’r Cynulliad. Cyhoeddodd Syr Emyr Jones Parry sef Cadeirydd y confensiwn ei bryder ar bwysigrwydd y mater o refferendwm ar hyn o bryd yng Nghymru. Mae gen i ofn fy mod i’n cytuno ac mai amseriad y refferendwm fydd yn holl bwysig er mwyn cael canlyniad teg sy’n adlewyrchu yr hyn mae Cymru wir angen.
Yn amlwg ni alla i weld unrhyw ffordd effeithiol ymlaen i Gymru os nad yw’r Senedd yn derbyn pwerau deddfu llawn. Mae’r system LCO yn wirion bost! System felltigedig o araf heb sôn am y gem ping pong nol a mlaen o’r Cynulliad i San Steffan.
Sut allai’r Arglwydd Trystan Garel-Jones gefnogi mwy o ddatganoli ond o dan yr un system LCO? Mae’n egluro’r system fel un “step by step”. Wel ia mi gytunai oni bai bod na gant a mil o stepia!
Fy ngobaith yw bod canlyniad adroddiad y confensiwn yn adlewyrchu yr hyn mae pobol Cymru eisiau, ac nad yw amseriad gwael neu anrhefn yn tarfu ar ganlyniad teg a chyfiawn.
1 comment:
Thank you for shariing
Post a Comment