gan Jenny-Ann Hopkin
Yn ddiweddar mae’n amlwg fod llawer o bwyslais wedi bod o fewn y cyfryngau yn son am y toriadau sydd wedi ei wneud o fewn addysg uwch. Rwy’n meddwl efallai, fod rhai ddim yn sylweddoli faint o bobl mae hwn yn effeithio arno, nid yn unig yn uniongyrchol, ond yn y pen draw.
Mae toriadau yn cael ei wneud yng ngholegau a canolfannau chweched dosbarth, sydd yn meddwl fod staff yn colli oriau, neu swyddi’n gyfan gwbl. Ond mae hwn hefyd yn effeithio ar disgyblion sydd methu astudio’r cyrsau maent eisiau oherwydd diffyg arian. Mae nifer o ddisgyblion wedi gwynebu hwn yn barod wrth wneud eu dewisiadau Lefel A, a dysgu eu fod methu dilyn y cwrs maent eisiau, oherwydd fod yr Ysgol neu’r Coleg methu fforddio i gadw’r cwrs i fynd. Mae hwn yn amlygu’i hunain mewn cyrsiau nad sydd mor boblogaidd ar Lefel A, megis ieithoedd fel Almaeneg ac ati. Gall hwn effeithio’n fawr ar dyfodol rhai unigolion, sydd yn dibynnu ar rhai Lefelau A arbennig i medru dilyn ei cwrs ddewisiedig yn y Brif Ysgol.
Wrth edrych o safbwynt staff, gyda fwyfwy o bobl yn colli swyddi, mae’n amser anodd iawn, gyda pwysau enfawr ar aelodau staff. Mae rhai’n dysgu fod yr Ysgol/Coleg methu fforddio i gynnal eu chwrs, a felly nid oes swydd iddynt rhagor, neu o fewn pynicau craidd megis Y Gymraeg a Mathemateg, fod rhaid i rhai aelodau staff colli rhai oriau oherwydd does dim digon o arian efo’r Ysgol/Coleg i rhoi swydd llawn amser iddynt.
Gwyddwn fod Plaid Cymru yn ceisio gweithio i wella’r sefyllfa, a dywedodd Dai Lloyd wrth son am Coleg Gorseinon, sydd yn ddiweddar wedi gwynebu amser caled. “Plaid feels strongly that we should try and protect key educational services locally’. Mae’r Coleg wedi gorfod meddwl am cau un o’i ganolfannau oherwydd diffyg arian, ac mae pwysau mawr ar staff y coleg, i wneud penderfyniadau anodd, fydd yn effeithio dyfodol y Coleg a’i fyfyrwyr.
Newyddion dda, sy’n dod a gobaith yw’r ffaith fod gennym Aelodau Seneddol fel Bethan Jenkins, sydd yn cynrychioli’r Blaid yn cydweithio a Dai Lloyd i wella’r sefyllfa. Hefyd, fod ein Plaid ni, yn gweithio ac yn ymgyrchu dros ein Colegau a’n canolfannau Cweched Dosbarth i sicrhau fod eu staff a’i fyfyrwyr yn cael y cyfleoedd gorau, i sicrhau fod gobaith iddynt yn y dyfodol, i rhoi’r cyfleoedd gorau i’r Cymry sydd yn astudio yma.
Wishing Everyone a Happy Christmas
12 hours ago
1 comment:
os fydd rhai o ACau Plaid yn cael eu ffordd fydd mwy o doriadau ym myd addysg .... er gwaetha lot o siarad macho dros cefnogi addysg. Y gwir yw, fydd llai o arian dros y blynyddoedd nesa ac os fydd rhai o ACau Plaid Cymru yn mynnu na ddylai unrhyw doriadau cael eu gwneud yn Iechyd mae hynny'n golygu toriadau mawrion yn infrastructure Cymru - addysg, trafnidiaeth a diwylliant.
Fydd rhaid i'r Blaid gwneud dewis. Derbyn fod rhaid i Iechyd (fel 30% o gyllideb WAG) wneud arbedion sylweddol neu torri symiau anferthol o bob gyllideb arall.
Pan fydd adain sosialaidd Plaid Cymru yn son am 'amddiffyn iechyd, ysbytai a nyrsus' gofynnwch lle mae nhw am dorri ar fuddsoddi yn isadeiladedd tymor hir Cymru. Does dim modd cael y ddau.
Mae'n rhaid gwneud arbedion mawrion mewn Iechyd os ydym o ddifri am fuddsoddi mewn addysg, cadw myfyrwyr yng Nghymru a'n hiaith a'n diwylliant.
Post a Comment